British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2009, 11:00 GMT 12:00 UK
Llifogydd: Dod i gytundeb

Llifogydd ym Mhontypridd
Mae golygfeydd fel yma wedi bod yn gyffredin yng Nghymru

Mae 'na gytundeb newydd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a'r diwydiant yswiriant a fydd yn cynnig gwell gwarchodaeth rhag effaith llifogydd.

Fe fydd gweinidogion a Chymdeithas Yswirwyr Prydain yn gweithio i wella rheoli risg llifogydd.

Fe fydden nhw hefyd yn helpu pobl i ddod i delerau yn gynt ar ôl achosion o lifogydd.

Daeth y cytundeb wrth i ffigyrau newydd gael eu cyhoeddi oedd yn dangos bod un o bob chwe adeilad yng Nghymru mewn perygl o wynebu llifogydd.

Yn ôl adroddiad gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru mae 600,000 o bobl Cymru yn byw neu yn gweithio mewn ardal sydd mewn risg o ddiodde llifogydd.

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson, bod Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn hyrwyddo symud o amddiffynfeydd i reoli risg ers peth amser.

Newid eithafol

"Fe gafodd cymunedau yng Nghymru eu heffeithio ym mis Mehefin gan lifogydd," meddai.

"Gyda rhagolygon yn dangos mwy o law oherwydd newid yn yr hinsawdd mae'r risg o fwy o lifogydd yn mynd i gynyddu.

"Ar wahân i'n hamddiffynfeydd a'n system draeniad, fe fydd yn rhaid i ni addasu i'r newid eithafol yn y tywydd."

Eglurodd bod y cytundeb yn "un mesur i fod ochr yn ochr ag amddiffynfeydd a chodi ymwybyddiaeth o beryglon llifogydd".

Rhaid edrych ymlaen a gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y mesurau yma yn cael eu gweithredu
Justin Jacobs, o Gymdeithas Yswirwyr Prydain

"Fe fydd cwmnïau yswiriant yn dal i gynnig gwasanaeth ceisiadau effeithiol tra bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gosod mesurau mewn grym i liniaru peryglon llifogydd.

"Mae hyn yn cadarnhau ein haddewid i weithio gyda'n gilydd i gynnig ateb hirdymor a fydd yn caniatáu i'r yswiriant fod yn fforddiadwy ac ar gael."

Mae'r ddau gorff yn bwriadu gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth peryglon llifogydd a gosod strategaeth hirdymor i leihau'r perygl a chostau llifogydd.

Y bwriad hefyd ydi i sicrhau systemau cynllunio a fydd yn atal datblygu mewn llefydd sydd mewn perygl.

Mae'r yswirwyr wedi cytuno bod yswiriant ar gyfer cartrefi a busnesau bach a chartrefi incwm isel.

Dywedodd Justin Jacobs, o Gymdeithas Yswirwyr Prydain, mai'r cynllun yma ydi'r opsiwn gorau i daclo'r sefyllfa.

"Rhaid edrych ymlaen a gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y mesurau yma yn cael eu gweithredu."

Fe fydd y cytundeb yn cael ei adolygu yn flynyddol.



HEFYD
Mwy i wynebu perygl llifogydd
10 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific