Mae'n bosib bod Craig Hooper yn ardal Castell-nedd
|
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am garcharor sydd wedi dianc o Garchar Prescoed yn Sir Fynwy. Methodd Criag John Hooper, 43 oed, â dychwelyd i'r carchar agored ddydd Gwener. Cafodd ei garcharu am dair blynedd a hanner am droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn y llys yn Abertawe ym mis Ebrill 2008. Credir ei fod yn ardal Castell-nedd lle mae ganddo gysylltiadau. Mae o wedi cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn 1.75 medr (5 troedfedd 8 modfedd) o daldra ac o faint canolig. Mae ganddo wallt llwyd a llygaid gwyrdd. Dywedodd yr heddlu fod ganddo datŵ o wennol ar ei fraich dde a nifer o datŵs eraill ar ei law. Mae'r cyhoedd wedi cael eu cynghori i beidio mynd at Hooper ond os oes gan unrhyw un wybodaeth lle mae o, fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
|