Mae'r asiantaeth wedi cyflwyno elfennewydd i'r prawf
|
Mae nifer o feicwyr modur wedi teithio o ganolbarth a gorllewin Cymru i Abertawe i brotestio am y diffyg canolfannau lle gall bobl sy'n dysgu gyrru beiciau modur gymryd eu prawf. Maen nhw'n dweud mai dim ond tair canolfan sydd yng Nghymru, ym Mangor, Abertawe a Chasnewydd. Oherwydd hyn mae nifer yn wynebu teithiau hir i gymryd eu prawf. Dywed yr Asiantaeth Safonau Gyrru bod y canolfannau yn y lleoliad gorau i gwrdd â'r galw am brofion. Mae'r asiantaeth wedi cyflwyno elfen oddi-ar-y-ffordd i'r prawf sy'n cyfyngu ar safleoedd posib. Daeth y prawf dau ran i rym yn y DU ddiwedd mis Ebrill. Mae canolfannau brawf amlbwrpas yn cael eu dewis ar ôl ystyried y boblogaeth a'r galw am brofion yn yr ardal. Yn ôl yr asiantaeth, ni ddylai'r rhan fwyaf o bobl orfod teithio dros 20 milltir neu am 45 munud i gymryd eu prawf. "Ein prif bryder ynghylch gorfodi dysgwyr i wynebu teithiau hir i gymryd eu prawf yw y byddan nhw wedi blino erbyn iddyn nhw gyrraedd," meddai un o'r ymgyrchwyr, Phil McFadden o Ddoc Penfro. "Y perygl yw y gallai'r daith hir olygu bod rhai pobl yn penderfynu gyrru beiciau yn anghyfreithlon. "Yn hytrach na gwella diogelwch, mae'n bosib y bydd y profion newydd yn gelyniaethu gyrwyr o ardaloedd gwledig." Dywedodd yr asiantaeth eu bod yn gorfod cydymffurfio â newidiadau gafodd eu cyflwyno yn Ewrop. "Ar ôl trafodaethau a phroses ymgynghori sylweddol gyda'r diwydiant daeth cytundeb y byddai'r profion newydd, am resymau diogelwch, yn cael eu cynnal mewn canolfannau amlbwrpas yn hytrach nag ar ffyrdd cyhoeddus," meddai llefarydd.
|