British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 18:26 GMT 19:26 UK
Selwyn Iolen i arwain seremonïau

Selwyn Iolen y Dirprwy Archdderwydd
Y Dirprwy Archdderwydd Selwyn Iolen fydd yn arwain y seremoniau

Cyhoeddwyd mai'r Dirprwy Archdderwydd, Selwyn Iolen, fydd yn arwain seremonïau'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau eleni.

Dywedodd Cofiadur yr Orsedd, Y Prifardd John Gwilym na all yr Archdderwydd, Dic yr Hendre fod yn bresennol yn y brifwyl eleni.

"Yn anffodus, ni fydd yr Archdderwydd yn gallu ymuno â ni yn Y Bala eleni," meddai.

"Rydym yn dra ddiolchgar i'r dirprwy, Selwyn Iolen, am gamu i'r bwlch.

"Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau at yr Archdderwydd."

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn cael ei gynnal ar Stad Rhiwlas ger Y Bala o Awst 1-8.

Mae gan yr Orsedd rannau allweddol i'w gwneud yn ystod yr wythnos.

Ar ddau fore, Llun a Gwener, yng Nghylch yr Orsedd, fe fydd yr Orsedd yn cyfarfod ac yn derbyn ac urddo aelodau newydd.

Yr Orsedd sydd hefyd yn gyfrifol am Seremoni Coroni'r Bardd ddydd Llun, Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith ddydd Mercher a Seremoni Cadeirio'r Bardd ddydd Gwener.

Cafodd Selwyn Iolen ei urddo'n Archdderwydd yn 2006.

Enillodd Selwyn Griffith Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989 am ddilyniant o gerddi ar y testun "Arwyr" ond roedd eisoes yn aelod o'r Orsedd ers 1973.

Ef oedd yn gyfrifol am Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd ddiwedd mis Mehefin oherwydd salwch Dic Jones.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


HEFYD
'Anrhydedd arbennig' i Selwyn
06 Awst 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific