Erica Roberts, chwaer Shirley Edwards - un o'r ddwy gafodd eu gwahardd rhag dod i Gymru - yn son am siom y teulu.
Cafodd dros £1,600 ei godi mewn cyngerdd nos Sadwrn i helpu dwy ddynes o Batagonia ddod i Gymru.
Cafodd y ddwy eu hanfon yn ôl i Dde America gan swyddogion mewnfudo ym Maes Awyr Heathrow yn gynharach eleni.
Roedd y cyngerdd yn cael ei gynnal yng Nghapel Rehoboth, Nant Peris.
Fe fydd yr arian gafodd ei godi yn ddigon i brynu tocyn awyren newydd i Shirley Edwards ac Evelyn Calcabrini.
Dywedodd y trefnwyr y byddan nhw'n parhau i gasglu arian.
Eu gobaith ydi y bydd modd i'r ddwy, oedd eisiau dod i ddysgu Cymraeg, allu cyrraedd o fewn yr wythnosau nesaf yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala.
Ymhlith yr artistiaid yn y cyngerdd yr oedd Dafydd Iwan, Gwenan Gibbard, Aron Elias a Jackie Williams.
Hi ydi'r unig chwaer sydd gen i a fyddai'n braf petai hi'n gallu dod yma i'n gweld ni
Erica Roberts, chwaer Shirley Edwards
Cafwyd cyflwyniadau o farddoniaeth Y Wladfa gan yr awdures Cathrin Williams a Glory Roberts, sy'n wreiddiol o'r Gaiman.
Ym mis Mai cafodd Shirley Edwards ac Evelyn Calcabrini, eu hanfon yn ôl i'r Wladfa mewn dau ddigwyddiad gwahanol.
Bwriad y ddwy oedd dod i dreulio amser yng Nghymru yn dysgu'r Gymraeg ond roedd yr awdurdodau yn pryderu na fydden nhw'n dychwelyd i Batagonia.
Roedd Evelyn Calcabrini, 20 oed, yn bwriadu aros â theulu yng Nglyndyfrdwy, Sir Ddinbych, er mwyn gloywi ei Chymraeg a dysgu Saesneg.
Roedd hi wedi cael gwahoddiad i aros yng ngartre Eos Griffiths a'i wraig o Batagonia, Carina.
Roedd Shirley Edwards yn dod i ymweld â'i chwaer sy'n byw yng Nghymru.
Dywedodd ei chwaer, Erica Roberts, eu bod fel teulu yn drist iawn na chafodd ddod.
"Doedd 'na ddim rheswm ei gyrru yn ôl a dwi'n gobeithio y bydd hi'n cael dod yma eto.
"Hi ydi'r unig chwaer sydd gen i a fyddai'n braf petai hi'n gallu dod yma i'n gweld ni fel teulu."
Fe wnaeth nifer o wleidyddion ymateb i'r achosion.
'Gwarthus'
Yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos diwethaf, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Mohammad Asghar ei fod yn gresynu bod Asiantaeth Ffiniau'r DU wedi gwrthod mynediad i ddwy.
"Roeddwn nhw'n dymuno ymweld â Chymru.
Cafodd £1,600 ei godi gan y gynulleidfa
"Mae pobl sy'n masnachu mewn rhyw a throseddwyr eraill yn cael dod i mewn i'r wlad."
Gofynnodd i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan "anfon map o Gymru i'r asiantaeth ac egluro i'r bobl hyn y cysylltiadau arbennig sy'n bodoli rhwng Cymru a Phatagonia".
"O ran y mater penodol yn ymwneud â Phatagonia, ceir rhywfaint o dystiolaeth bod gan yr asiantaeth ffiniau ryw fath o broblem agwedd a bod angen rhoi gwybod iddi am y cysylltiadau sy'n bodoli," oedd ateb Mr Morgan.
"Yr oedd achos diweddar y fenyw a oedd wedi teithio o Batagonia a gafodd wrthod mynediad i'r DU yn gwbl warthus.
"Nid oes dim amheuaeth am hynny."
Yn ôl yr is-weinidog yn Swyddfa Cymru, Wayne David AS , mae'n "bwysig bod cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia yn cael eu datblygu..."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.