Ysgol Ifor Hael yw'r ysgol gynradd Gymraeg newydd yn y ddinas
|
Mae ysgol gynradd Gymraeg newydd wedi agor yn swyddogol yn y de-ddwyrain. Ysgol Ifor Hael yw'r ail ysgol i agor yng Nghasnewydd wrth i nifer y disgyblion ddyblu o fewn blwyddyn. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod angen agor trydedd ysgol yn y ddinas o fewn ychydig o flynyddoedd. Roedd 25 o ddisgyblion yn croesawu gwesteion i'r seremoni i nodi agor eu hysgol yn swyddogol ddydd Gwener. Cafodd yr ysgol ei henwi ar ôl yr uchelwr oedd yn brif noddwr y bardd Dafydd ap Gwilym. Ifor Hael neu Ifor ap Llywelyn o Faesaleg oedd mab Llewelyn ap Ifor ac Angharad Morgan o Dredegar ac roedd yn byw yng Ngwern y Cleppa yn Nhredegar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Blwyddyn gynta Hwn yw diwedd blwyddyn gynta'r ysgol sydd yng ngorllewin y ddinas. Pennaeth Ysgol Gymraeg Casnewydd, Gwenda Roberts, sydd wedi bod wrth y llyw eleni. "Mae mwy a mwy o rieni, di-Gymraeg yn y cyswllt yma, am i'w plant ddysgu trwy gyfrwng Y Gymraeg," meddai. "Mae'n nhw'n falch o'r iaith ac yn sylweddoli ansawdd yr addysg sydd ar gael a hefyd yr holl weithgareddau eraill sy'n dod yn sgil hynny." Fe fydd pennaeth parhaol yn dechrau ym mis Medi.
Dau ddisgybl o Ysgol Gyfun Gwynllyw yn cario'r ffagl
|
Y ddwy athrawes yw Rhian Fidler sy'n arwain y Cyfnod Sylfaen a Sara Thomas sy'n dysgu'r dosbarth meithrin. Fe fydd disgyblion yr ysgol - fel pob ysgol Gymraeg hen sir Gwent - yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl. Bore Gwener seiclodd 20 o ddisgyblion o'r ysgol honno i Gasnewydd er mwyn croesawu'r ysgol newydd a chario ffagl i groesawu'r ysgol newydd. Dywedodd prifathro Gwynllyw, Ellis Griffiths, taw'r "her fawr yn yr ardal" oedd rhoi'r cyfle i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ysgol. "Dwi'n ymwybodol bod yr Urdd yn penodi swyddogion i helpu gyda hybu Cymreigtod y disgyblion y tu allan i'r ysgol," meddai. "Mae'n her i ni sicrhau eu bod yn defnyddio'r Gymraeg am weddill eu hoes." Dywedodd Cyngor Sir a Dinas Casnewydd bod datblygu addysg Gymraeg yng ngorllewin y ddinas "yn gyffrous". "Rydyn ni'n benderfynol o wrando ar ddymuniadau rhieni ac mae'n amlwg fod y galw am addysg Gymraeg yn cynyddu yn y ddinas."
|