British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf 2009, 09:46 GMT 10:46 UK
RNLI: Ehangu gwasanaeth

Tîm Ceredigion
Bydd cyfanswm o 26 o achubwyr ar ddyletswydd o 10am tan 6pm

Mae'r RNLI yn lansio gwasanaeth achub ar wyth traeth yng Ngheredigion.

Erbyn hyn mae gan yr elusen wirfoddolwyr ar draethau Tresaith, Llangrannog, Clarach, Cei Newydd, Borth, Aberporth a Gogledd a De Aberystwyth.

Mae'r cyfrifoldeb am wasanaeth achub bywyd yn trosglwyddo i'r RNLI o Gyngor Ceredigion, sy'n ariannu'r gwasanaeth.

Bydd cyfanswm o 26 o achubwyr ar ddyletswydd o 10am-6pm ar yr wyth traeth yn ystod wythnosau prysuraf yr haf.

Mae'r gwasanaeth yn cychwyn ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd yr elusen oruchwylio traethau yn Sir Benfro'r llynedd.

Erbyn hyn maen nhw'n goruchwylio traethau yn Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Cheredigion.

Mae'r RNLI bellach yn cyflogi dros 100 o achubwyr i oruchwylio'r 28 traeth ar hyd arfordir Cymru.

Fe wnaeth y gwaith goruchwylio gychwyn ym mis Mai ar draethau Abertawe a Chefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin.

Sgiliau

Cynghorau sy'n ariannu'r achubwyr, tra bod hyfforddiant ac offer yn cael eu darparu gan yr RNLI.

Yn ogystal ag achub pobl mewn trafferthion, maen nhw hefyd yn rhoi cymorth cyntaf a gwybodaeth am ddiogelwch ar draethau.

Dywedodd goruchwyliwr yr RNLI yng Ngheredigion, Elin Jones, bod gan yr RNLI orsafoedd trwy Geredigion eisoes.

"Fe fydd sgiliau'r criw achub yn ategu sgiliau'r gwirfoddolwyr ar y badau achub, gan ddarparu gwasanaeth achub cynhwysfawr o'r traeth i'r môr agored.

"Er gwaetha'r gwasanaeth proffesiynol, mae'n rhaid i bobl ar y traeth ac yn y môr gymryd gofal o hyd.

"Fe ddylai unigolion wrando ar y cyngor a nofio ar draeth lle mae 'na achubwyr bywyd rhwng y baneri melyn a choch."

Mae'r RNLI yn gyfrifol am wasanaethau achub bywyd ar draws y DU ac yn gwarchod dros 100 o draethau eisoes.



HEFYD
Bad nôl adre i ddathlu 100 oed
24 Meh 09 |  Newyddion
Achub dyn o donnau 4m o uchder
28 Mai 09 |  Newyddion
Achubwr gafodd ei achub
01 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific