Cafodd Geoffrey Graham ei wahardd rhag defnyddio'r we am bum mlynedd
|
Mae athro wedi cyfadde iddo fod â mwy na 130 o luniau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur. Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug cafodd Geoffrey Graham, 53 oed, ei wahardd rhag gweithio â phlant. Fe gafodd ei wahardd rhag defnyddio'r we am bum mlynedd. Roedd Graham o Lansanffraid, Powys, wedi cael rhybudd am ysgrifennu sylwadau anweddus ar y we. Aeth yr heddlu â'i gyfrifiadur yn ystod cyrch ar ei gartref ger Y Trallwng. Ar y cyfrifiadur roedd 134 o luniau o blant rhwng 10 a 15 oed. Roedd y mwyafrif yn perthyn i Adran Un ond pump yn waeth, yn perthyn i Adran Dair. Ac roedd rhai o'r lluniau yn cynnwys rhai yr oedd yr athro ymarfer corff wedi eu tynnu o ferched yn chwarae pêl-rwyd. Plediodd yn euog i bum trosedd o wneud lluniau amheus o blant a chwe chyhuddiad o fod â 134 o luniau anweddus yn ei feddiant. Cafodd orchymyn cymunedol am 18 mis ac fe fydd rhaid iddo gyflawni 200 awr o waith di-dâl. Fe fydd ar gofrestr troseddwyr rhyw am y pum mlynedd nesaf.
|