Gŵyl gerddorol a thonfyrddio yw Wakestock
|
Mae disgwyl miloedd o bobl i heidio i Ben Llŷn ar gyfer 10fed Wyl Wakestock dros y penwythnos. Ymhlith yr artistiaid eleni y mae'r Super Furry Animals, Dizzee Rascal, Moby a NERD a Zane Lowe. Dechreuodd yr ŵyl dridiau ym Mhenrhos ger Pwllheli fel cystadleuaeth don-fyrddio. Ond dros y blynyddoedd mae wedi troi'n ŵyl gerddorol hefyd. Mae wedi denu artistiaid fel Happy Mondays, Feeder, Zabrinski, Goldie Lookin' Chain - a Duffy'r llynedd. Y disgwyl y bydd 20,000 o bobl yn yr ŵyl sy'n dechrau ddydd Gwener. Mae tonfyrddwyr yn defnyddio bwrdd sy'n debyg i un eirafyrddwyr ac mae hwn yn cael ei dynnu gan gwch modur. Yn harbwr marina Pwllheli mae'r cystadlu. Gall gwylwyr wylio'r holl gyffro ychydig o droedfeddi i ffwrdd o'r dŵr. Dechreuodd yr ornest pan oedd parti mewn maes parcio ar gyfer 800 o bobl. Ond dros y blynyddoedd mae wedi troi'n un o brif ddigwyddiadau tonfyrddio Ewrop. Abersoch oedd canolbwynt yr ŵyl i ddechrau ond mae'r datblygiadau wedi symud tair milltir i safle Penrhos.
|