Amcangyfri bod difrod blynoddol i eiddo yn £200 miliwn
|
Mae 'na rybudd bod un o bob chwe adeilad yng Nghymru mewn peryg o ddioddef llifogydd yn ôl asesiad manwl gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r ffigyrau llawer yn uwch na'r amcangyfrif blaenorol oherwydd bod bygythiad o ddŵr ar y wyneb yn cael ei gynnwys am y tro cyntaf. Dywed yr adroddiad bod tua 600,000 o bobl yn gweithio neu yn byw mewn ardaloedd lle mae 'na berygl. Dywed hefyd bod rhaid i waith gael ei wneud i "reoli'r perygl" gan gynnwys adeiladu amddiffynfeydd newydd mewn ardaloedd o berygl uchel. Dywedodd Geraint Davies, cadeirydd Rheoli Perygl Llifogydd Cymru, bod newid hinsawdd yn golygu bod mwy o bobl mewn perygl o wynebu llifogydd. "Mae'r ffigwr bellach yn un o bob pum person neu 600,000 yng Nghymru," meddai. Gwneud y gorau "Mae'n golygu bod rhaid dyblu'n ymdrechion i addasu Cymru ar gyfer y newid hinsawdd drwy godi ymwybyddiaeth a chynnig amddiffynfeydd ac atal datblygiadau anaddas. "Rhaid gweithredu o fewn arolwg o bob math o lifogydd, afonydd, arfordirol a llifogydd ar y wyneb.
Mae llifogydd yng Nghymru ar gynnydd
|
"A bod rhaid gweithio ochr yn ochr gyda'r awdurdodau i wneud y gorau o arian cyhoeddus i reoli'r cynnydd mewn perygl i gymunedau Cymru." Y flwyddyn diwethaf fe wnaeth Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru amcangyfri bod nifer yr eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd afonydd a moroedd yn 170,000. Mae'r ffigwr nawr yn 220,000. Dywed yr asiantaeth bod lefel y môr yn codi a bod stormydd glaw cyson oherwydd newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd 'na fwy o berygl am lifogydd. Mae cost difrod blynyddol i gartrefi a busnesau Cymru tua £200 miliwn yn ôl amcangyfri. Gwneud mwy Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth Amgylchedd Cymru bod y data diweddara am newid hinsawdd yn y DU yn dangos bod y perygl o lifogydd yn mynd i godi yn y dyfodol. "Yma yng Nghymru, mae 'na benderfyniadau pwysig i'w gwneud am y modd yr ydym yn rheoli'r peryglon a gwarchod pobl, cymunedau, busnesau a'r economi Cymru yn y dyfodol." Mae'r adroddiad yn amlinellu gwaith sydd eisoes wedi eu gwneud ond bod rhaid gwneud mwy o waith. Mae hyn yn golygu helpu pobl i baratoi ac i atal "datblygiad anaddas" mewn ardaloedd sydd mewn perygl. Dywed yr asiantaeth eu bod yn buddsoddi dros £16 miliwn yn eu rhaglen blynyddol, y mwyafrif yn adeiladu amddiffynfeydd newydd. "Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cwblhau nifer o welliannau sydd wedi lleihau'r risg i bron 6,000 o eiddo ar draws Cymru a gwachod strwythurau allweddol," meddai Mr Mills. "Wrth barhau i fuddsoddi yn hanfodol, mae'n rhaid i gymunedau gymryd cyfrifoldeb a bod yn barod hefyd."
|