British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 08:20 GMT 09:20 UK
Gyrrwr beic modur yn marw

Damwain
Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r ddamwain nos Iau

Bu farw gyrrwr beic modur ar ôl gwrthdrawiad gyda char yn Sir y Fflint.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y beic modur a char ar ffordd yr A5104 ym Mhontblyddyn ger Yr Wyddgrug nos Iau.

Aed a'r beiciwr i Ysbyty Wrecsam Maelor lle cafwyd cyhoeddiad ei fod wedi marw.

Credir bod y dyn yn dod o ardal Cilgwri.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod ymholiadau i ganfod ei berthnasau wedi digwydd.

Chafodd gyrrwr y car ddim anafiadau.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific