British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 08:00 GMT 09:00 UK
Apelio am dystion wedi gwrthdrawiad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 11.20pm nos Iau ar yr A40 yn Nantgaredig ger safle sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Jones Television.

Mae dynes 45 oed wedi cael anafiadau difrifol yn y digwyddiad ac mae hi mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gyda gyrrwr car arian oedd yn teithio i gyfeiriad Caerfyrddin wnaeth aros ger y safle yn fuan wedi'r gwrthdrawiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod hefyd yn awyddus i siarad gyda gyrrwr arall oedd yn teithio tua Chaerfyrddin pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Fe ddylai unrhyw un gysylltu gyda'r Sarjant Ian Price ar 0845 330 200 neu wasanaeth 101 yn ardal Heddlu Dyfed Powys.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific