Bydd yn darparu gofal iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol
|
Bydd uned gofal iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc yn golygu na fydd yn rhaid i'r cleifion deithio i Loegr am driniaeth. Dydd Gwener bydd Edwina Hart, Gweinidog Iechyd Cymru, yn agor yr uned ar gyfer plant rhwng 13 a 18 oed, sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Abergele. Cost uned Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru yw £15.3 miliwn sydd wedi cael ei ariannu yn llawn gan Lywodraeth y Cynulliad. Bydd yn darparu gofal iechyd meddwl arbenigol i gleifion mewnol o bob rhan o Ogledd Cymru a Gogledd Powys 24 awr y dydd saith niwrnod yr wythnos. Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Haen 4 yn darparu triniaeth ddwys i blant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl difrifol a neu gymhleth. Hyd yma lleolwyd Gwasanaeth Cleifion Mewnol Gogledd Cymru mewn tŷ mawr ym Mae Colwyn nad oedd yn addas i'r diben. O ganlyniad, roedd yn rhaid i lawer o bobl ifanc o'r rhanbarth a oedd angen triniaeth gael eu trosglwyddo i unedau seiciatrig pobl ifanc yn Lloegr, yn bell o'u teulu, eu ffrindiau a gwasanaethau lleol. Cymraeg Roedd hyn yn achosi problemau penodol i blant a theuluoedd Cymraeg iaith gyntaf. Mae'r uned newydd sydd wedi cael ei adeiladu yn bwrpasol yn cynnwys ward triniaeth a gynlluniwyd ag 11 gwely, ward gofal aciwt â 5 gwely ac ysgol ar y safle. Mae yna hefyd gyfleusterau cleifion allanol ar gyfer FACTS Cymru Gyfan (Gwasanaeth Ymgynghoriad a Thriniaeth Fforensig i'r Glasoed). Bydd pobl ifanc yn trosglwyddo i'r ward triniaeth ar Orffennaf 15. Bydd y ward gofal aciwt ar agor yn llawn erbyn Tachwedd 2009, wrth i'r broses recriwtio nyrsio gofynnol gael ei chwblhau. Bydd staff yr ysgol ar y safle yn cynnwys pedwar athro a phedwar cynorthwyydd addysgu. Bydd pob unigolyn ifanc sy'n treulio amser yng Ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru yn mynychu'r ysgol ac yn cael cynnig rhaglenni astudio unigol sy'n gweddu i'w hamgylchiadau a galluoedd. Fe fydd gan staff yr ysgol rôl wrth gefnogi pobl ifanc yn ôl i addysg, hyfforddiant neu waith yn y gymuned. 'Cyffrous' Dyma un o'r nifer fach o unedau GIMPPI a adeiladwyd i'r diben yn y DU a'r gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru. Dywedodd Dr Clare Lamb, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, bod hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous. "Fe fydd yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer Gogledd Cymru. "Bydd yn caniatáu i ni ddarparu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Haen 4 i rai o'r plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed, sydd ag anghenion cymhleth iawn. "Rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r holl weithwyr iechyd proffesiynol, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi cyfrannu at gynllunio a dylunio'r uned. "Hefyd hoffem ddiolch i'r tîm adeiladu a dylunio sydd wedi gweithio mor agos â ni i greu'r amgylchedd therapiwtig gorau i'n cleifion ifanc." Ychwanegodd Ms Hart bod y cynllun yma yn rhan o addewid ehangach tuag at iechyd meddwl. "Fe fydd 'na adnoddau newydd i bobl ifanc yn ne Cymru ac unedau ar gyfer oedolion yn y gogledd dros y ddwy flynedd nesaf. "Dwi'n benderfynol o wella gwasanaethau ar draws Cymru."
|