Roedd gan Jamie Yeates uchelgais realistig o fod yn joci
|
Roedd mam 37 oed o Lanelli yn ei dagrau yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau wrth ddisgrifio'r noson pan gafodd ei mab 15 oed ei ladd. Mae'r llys-dad Wayne Bowen, 42 oed, yn gwadu lladd ei lysfab, ceisio llofruddio'i wraig a'i lysferch - a dau gyhuddiad arall yn ymwneud a'i lysferch a'i wraig. Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Jamie Yates trwy ei drywanu 18 o weithiau. Mae e'n gwadu'r cyhuddiadau. Roedd y fam, Maria Yates, yn ei dagrau yn y llys wrth ddisgrifio sut y gwelodd ei gŵr yn dod allan o ystafell ei mab, Jamie, yn cario cyllell a phastwn. Disgrifiodd sut y ceisiodd Mr Bowen ei tharo ar ei phen, a'i thrywanu, ond methu. Dywedodd iddo wedyn drywanu ei merch ddwywaith yn ei braich, cyn gadael y tŷ a chloi'r drws ar ei ôl. 'Gwaed ym mhobman' Cafodd galwad ffôn y fam i'r gwasanaethau brys ei chwarae yn y llys, gyda Maria Yates yn dweud drosodd a throsodd - "mae e wedi trywanu fy mab i". Gwaeddodd bod 'na waed ym mhobman, a bod ei gŵr wedi mynd â'r gyllell a'r pastwn gydag ef wrth adael y tŷ. Honnodd Maria Yates wrth y llys nad oedd ei gŵr ddim yn gallu diodde'r ffaith ei bod hi a'i mab â pherthynas mor agos. Dydd Mawrth honnodd yr erlynydd fod y diffynnydd yn wastad yn amau bod ei wraig, oedd wedi cael saith mab gydag e, yn cael perthynas arall. Clywodd y llys nad oedd ei wraig yn cael gadael y tŷ heb ei ganiatâd, ei fod yn amseru ei hymweliadau i'r archfarchnad, yn cadw golwg fanwl ar ei ffôn symudol a maint milltiroedd car y teulu. Gwahardd Roedd honiadau bod Jamie a Kimberley wedi cael eu gwahardd rhag unrhyw gysylltiad â theulu eu tad. Ond pan glywon nhw fod eu tad-cu yn dioddef o ganser fe aeth y ddau yn ôl i gysylltiad ag e ac fe ddechreuodd Jamie fynd i'w weld. Clywodd y rheithgor fod Jamie am fod yn joci a'i fod wedi bod yn gweithio i hyfforddwr ceffylau rasio mewn stablau yng Nghaerfyrddin. Mae'r achos yn parhau.
|