British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 17:06 GMT 18:06 UK
Traeth: Trwsio pibell garffosiaeth

Traeth y Rhyl
Mae traeth y Rhyl yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi codi'r baneri coch a'r arwyddion oedd yn rhybuddio pobl rhag nofio yn y môr yn y Rhyl wedi i garffosiaeth ollwng i'r dŵr.

Erbyn hyn y mae'n ddiogel i fentro i'r dŵr ar ôl i'r bibell gael ei thrwsio a'r dŵr nofio yn cyrraedd safonau derbyniol.

Fe ddywedon y cyngor ddydd Mawrth eu bod yn siomedig fod y bibell garffosiaeth wedi byrstio mor agos at y gwyliau ysgol, ac maen nhw wedi galw ar sicrhad na fydd hyn yn digwydd eto.

Roedd yr ymateb i'r digwyddiad yn cael ei arwain gan Dŵr Cymru a'r Asiantaeth Yr Amgylchedd.

"Amddiffyn enw da"

Ddydd Mawrth dywedodd Aelod cabinet Sir Dinbych dros adfywio, David Thomas: "Rydym yn siomedig iawn fod hyn wedi digwydd yn ystod y tymor gwyliau, yn enwedig mor agos at wyliau haf yr ysgolion.

"Dyma'r eildro yn y chwe mis diwethaf i garffosiaeth ollwng yn yr un lle, ac rydym am gael atebion pam fod hyn wedi digwydd a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau na fydd yn digwydd eto.

"Mae'r ardal yma yn denu miloedd o ymwelwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda llawer yn tyrru i'n traethau sydd wedi ennill gwobrau. Ond mae pethau fel hyn yn cael effaith ar ein hamgylchedd, ac rydym yn awyddus i amddiffyn enw da'r ardal fel lle delfrydol i ymwelwyr."



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific