British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Gorffennaf 2009, 07:15 GMT 08:15 UK
Canolfan gofal brys newydd i ysbyty

Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful
Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful

Bydd y gwaith yn dechrau'n fuan ar ganolfan gofal brys newydd yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Cyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, y buddsoddiad ddydd Iau.

Bydd y ganolfan yn cyflymu triniaeth i gleifion, ac yn gwella'r amodau gofal brys i gleifion a staff.

Nod y ganolfan newydd yw darparu gwasanaethau llawdriniaeth ac asesiad, ac fe fydd yn cynnwys sganiwr MRI.

Bydd darpariaeth brys i gleifion y galon, ac adnoddau i feddygon teulu y tu allan i oriau arferol.

Mae'r datblygiad yn werth £21.93 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys £15.43 miliwn o gyllideb iechyd Llywodraeth Y Cynulliad, a £6.5 miliwn o gyllideb Llywodraeth San Steffan.

Lleihau amseroedd aros

"Bydd y ganolfan Gofal Brys newydd yn rhoi mwy o le i staff a chleifion, yn gwella gwasanaethau i gleifion, ac yn golygu gostwng amseroedd aros a gwella preifatrwydd ac urddas cleifion," meddai Ms Hart.

"Mae hwn yn cwbwlhau buddsoddiad diweddar yn yr ysbyty.

Ysbyty Bryn Y Neuadd, Llanfairfechan
Ysbyty Bryn Y Neuadd, Llanfairfechan

"Bydd cleifion yn gweld gwelliant sylweddol wrth gael triniaeth yn gynt ac mewn safon y gofal."

Bydd £2.1 miliwn hefyd yn cael ei fuddsoddi yn uned gofal parhaus Ysbyty Bryn Y Neuadd yn Llanfairfechan yng Ngwynedd.

Bydd yr uned yn cefnogi gofal wyth o bobl gydag anawsterau dysgu sydd ag anghenion dyrys a chymleth lle nad yw hi'n bosib iddyn nhw fyw adre.

Mae disgwyl i'r gwaith ar y ddau ddatblygiad ddechrau yn fuan.



HEFYD
Targedau i leihau rhestrau aros
17 Maw 05 |  Newyddion
Ofnau am 'israddio' ysbytai
15 Mai 06 |  Newyddion
£64m ar gyfer ysbyty newydd
02 Maw 07 |  Newyddion
Ysbyty'n ailgychwyn llawdriniaethau?
12 Medi 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific