Richard Brunstrom yn siarad am ei gyfnod fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
Ar ei ddiwrnod olaf yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru mae Richard Brunstrom wedi sôn am ei falchder a'i edifeirwch.
Bu'n brif gwnstabl am bron naw mlynedd ac yn falch fod gostyngiad mewn lefelau troseddu ond yn difaru ei fod weithiau wedi "dod yn destun stori".
Cafodd Richard Brunstrom ei saethu gan wn taser
Er bod y cyfnod yn ddadleuol dywedodd ei fod yn "gyffrous iawn".
Oherwydd ei alw am gyfreithloni rhai cyffuriau caled a'i bolisi o dargedu pobl sy'n goryrru, fe gafodd ei feirniadu.
Er hynny, roedd ganddo farn gref am yr iaith Gymraeg ac roedd o blaid hunanreolaeth i Gymru.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2000 ac mae wedi ennill nifer o gymwysterau cyn cael ei urddo'n Dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd yn 2006.
Mae wedi bod yn blismon am 30 mlynedd.
'Llwyddiannus'
Wrth iddo adael ei swydd, dywedodd fod troseddu wedi gostwng 50% yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
GYRFA RICHARD BRUNSTROM
1979: Ymuno â Heddlu Sussex ar ôl graddio yn Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor
1990: Ymuno â Heddlu Manceinion fel uwcharolygydd ac yn gyfrifol yn gyson am gemau yn Old Trafford
1995: Cael ei benodi'n brif gwnstabl cynorthwyol yn Cleveland cyn dod yn ddirprwy brif gwnstabl
2000: Ymuno â Heddlu Gogledd Cymru
2001: Olynu Michael Argent yn brif gwnstabl. Dywedodd wrth awdurdod yr heddlu y byddai cyfreithloni rhai cyffuriau fel heroin a chocên yn helpu cael gwared ar fasnach droseddol gwerth miliynau o bunnoedd
2002: Galw am "newid agwedd" at oryrru
2003: Prif gwnstabl oedd wedi ymddeol yn dweud wrtho fod ganddo "obsesiwn" gyda gyrwyr ac y dylai ganolbwyntio ar faterion eraill
2005: Honnir mai fo oedd y prif gwnstabl cyntaf i gychwyn
blog
2006: Cael ei urddo'n aelod o Orsedd y Beirdd gyda'r enw Prif Gopyn
2007: Cael ei feirniadu am ddangos lluniau o feiciwr modur heb ei ben i'r wasg adeg ymgyrch i hyrwyddo gor-yrru. Bu raid iddi ymddiheuro. Cael ei saethu gan wn taser a thorri i mewn i bencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn i brofi'r system ddiogelwch.
2009: Cyd-gyflwyno rhaglen Jeremy Vine ar BBC Radio 2
"Dwi'n teimlo ein bod wedi cael cyfnod llwyddiannus iawn ac mae'r canlyniadau yn dangos hynny gan fod nifer y troseddau i lawr," meddai.
Dywedodd fod y "mwyafrif" yn cefnogi ei safiad ar draffig a'i fod o blaid codi carchar yng Nghaernarfon.
Wrth gyfeirio at y disgrifiad yn y Daily Mail ohono fel "Mullah Dwl Taliban y Traffig" - oherwydd ei agwedd at oryrru - dywedodd ei fod yn "ddoniol ond yn wirion".
Dywedodd ei fod yn difaru mai ef oedd testun stori weithiau.
Yn 2007 cafodd ei feirniadu am ddangos llun o feiciwr marw i'r wasg heb ganiatâd y teulu.
Roedd y lluniau'n dangos pen wedi ei ddatgysylltu o gorff wedi damwain ffordd.
Ym mis Medi 2007 penderfynodd y byddai'n fodlon cael ei saethu gan wn taser 50,000 folt er mwyn profi ei fod yn arf diogel.
Wedyn ym mis Rhagfyr roedd adroddiadau ei fod wedi torri i mewn i bencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn er mwyn tynnu sylw at ddiogelwch.
Yn ddiweddarach, roedd adroddiadau'n awgrymu nad oedd ei allwedd yn gweithio.
Ei gyngor i'w olynydd yw "Dilynwch eich llwybr eich hun".
Mae Mr Brunstrom yn gobeithio "gwerthu popeth" er mwyn prynu cwch a theithio ynddo gyda'i wraig.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.