British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 14:38 GMT 15:38 UK
Dirwy i gwmni am anaf bachgen

Splashland
Caewyd Splashland yn dilyn y digwyddiad

Cafodd cwmni gwyliau ddirwy o £150,000 ar ôl i fachgen gael anafiadau difrifol iawn mewn pwll nofio.

Roedd Chad Mole, 7 oed, ar wyliau gyda'i deulu ym maes carafannau Trecco Bay ym Mhorthcawl pan gafodd yr anafiadau ar Hydref 18, 2005.

Cafodd Upper Bay Limited, perchnogion y maes carafannau sydd ymhlith y mwyaf yn Ewrop, orchymyn hefyd i dalu £182,500 o gostau.

Y mis diwethaf, fe gafodd rheithgor y cwmni'n euog o beidio sicrhau nad oedd y bachgen yn agored i risg i'w iechyd a diogelwch.

Roedd y cwmni wedi gwadu'r cyhuddiad mewn dau achos yn Llys Y Goron Caerdydd - doedd y rheithgor cyntaf ddim wedi llwyddo i gytuno ar benderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Upper Bay Limited fod y cwmni yn bwriadu apelio yn erbyn y rheithfarn.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Damwain bachgen: Cwmni'n euog
18 Meh 09 |  Newyddion
Damwain: Tad yn beio gwarchodwyr
10 Meh 09 |  Newyddion
Anafiadau difrifol i fachgen bach
08 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific