British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 16:43 GMT 17:43 UK
Gwobr i wefan feddygol Gymreig

Gwefan amniodex
Ennillodd y wefan y brif wobr yn St.Louis

Mae gwefan feddygol ddyfeisiwyd gan Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr ryngwladol yn yr Unol Daleithiau.

Mae gwefan 'amniodex' yn cynnig cyngor y ddarpar rieni sy'n wynebu'r penderfyniad anodd i roi prawf amniosentesis i'r ffetws.

Datblygwyd y wefan gan yr Athro Glyn Elwyn o adran Gofal Cyntaf y brifysgol a Marie-Anne Durand o'r adran Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg Clinigol.

Gwefan orau'r ŵyl

Yr Athro Glyn Elwyn
Cafodd ei gynllunio'n ofalus i gynnig cyngor diduedd i gynorthwyo merched i wneud penderfyniad mewn cyfnod anodd iawn
Athro Glyn Elwyn

Prifysgol Caerdydd

Dywedodd yr Athro Elwyn: "Gan fod y cyngor sy'n cael ei gynnig i ferched sy'n cael cynnig prawf amniosentesis ar hyn bryd yn cael ei gydnabod fel annigonol, cafodd amniodex ei ddatblygu i helpu merched i wneud y penderfyniad.

"Cafodd ei gynllunio'n ofalus i gynnig cyngor diduedd i gynorthwyo merched i wneud penderfyniad mewn cyfnod anodd iawn iddyn nhw.

"Rydym wrth ein bodd yn derbyn gwobr fel hyn sy'n cydnabod ein hymroddiad i ddatblygu atebion o safon uchel."

Mae HeSCA (Health and Science Communications Association) yn gorff rhyngwladol sy'n cynnal gŵyl gyfryngau flynyddol. Yn yr ŵyl yn St.Louis ym mis Mehefin, fe ennillodd amniodex.com y wobr aur a'r wobr am wefan orau'r ŵyl.

Mae'r wefan yn cynnwys pytiau fideo o straeon merched a phobl broffesiynnol ym maes iechyd. Mae yna fforwm yn ogystal, ynghyd ag ymarferion i gynorthwyo merched i wneud penderfyniad, ac i'w cefnogi wedi iddyn nhw wneud eu penderfyniad.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific