Roedd Claire Hughes ar wyliau yn Llandudno
|
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn am gymorth i ddod o hyd i ferch ifanc sydd heb gael ei gweld ers dydd Sul. Er mai o Dreffynnon y daw Claire Hughes, 16 oed, yn wreiddiol, roedd hi ar wyliau yn Llandudno pan aeth ar goll. Mae'n cael ei disgrifio fel tua 5'4" o daldra gyda gwallt hir brown tywyll, ac o gorff tenau. Mae ganddi lygaid brown ac mae'n siarad gydag acen Gogledd Iwerddon. Mae'n bosib ei bod yn teithio ar drên. Pan y'i gwelwyd am y tro diwethaf ddydd Sul, roedd yn gwisgo jeans glas gyda gwregys gwyn, 'hoodie' gwyn ac esgidiau brown. Mae'r heddlu yn poeni amdani ac yn gofyn i Claire gysylltu gyda'i theulu neu'r heddlu er mwyn iddyn nhw wybod ei bod yn ddiogel. Mae'r heddlu hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld merch ifanc o'r disgrifiad yma, neu sy'n gwybod lle mae hi, i gysylltu gyda'r heddlu ar 0845 6071001.
|