|
Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth fod hofrennydd wedi bod mewn damwain wrth geisio glanio ym Maes Awyr y Canolbarth yn y Trallwng. Bu'n rhaid torri'r peilot yn rhydd o gab yr hofrennydd. Fe gafodd drinaeth yn y fan a'r lle gan barafeddygon. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 1145am ddydd Iau ond nid aeth yr hofrennydd ar dân. Dywedodd ffermwr lleol iddo glywed clec anferth. Roedd yr hofrennydd wedi glanio ar ei hochr. Doedd anafiadau'r peilot ddim yn ddifrifol a doedd y gwasanaeth tân ddim yn credu ei fod wedi gorfod mynd i'r ysbyty. Roedd yr hofrennydd yn berchen i gwmni Whizzard, sy'n dysgu pobl i hedfan hofrenyddion. Maes Awyr y Trallwng yw eu cartref. Mae'r hofrennydd bellach wedi ei gludo o'r safle, ac mae'r adran ymchwilio i ddamweiniau awyr yn astudio'r mater yn ofalus.
|