Mae rhai o'r swyddi dan fygythiad yn safle Llanwern.
|
Mae 149 o swyddi dan fygythiad yn nau safle Corus yn y de oherwydd adolygiad. Dywedodd y cwmni y byddai'r diswyddiadau yn safleoedd Port Talbot a Llanwern ger Casnewydd. Yr adrannau sy'n debyg o ddiodde yw swyddi sy'n cefnogi'r gwaith cynhyrchu - adnoddau dynol, cyllid a'r labordai. Bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Llun a dywedodd llefarydd y cwmni y bydden nhw'n trafod gyda'r undebau. 2,000 Fe gyfaddefodd y gallai cyfanswm y swyddi fod yn llai. Cafodd yr adolygiad gweithredol ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn tua'r un pryd ag y cyhoeddwyd 528 o ddiswyddiadau oherwydd atal gweithio'r felin boeth yn Llanwern. Ychwanegodd y llefarydd fod llai o weithwyr cynhyrchu'n golygu cael gwared ar swyddi busnes cysylltiedig. Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y cwmni dur y byddai 2,000 o swyddi yn cael eu colli yn Scunthorpe, Rotherham a Teesside. Mae Corus yn rhoi'r bai ar lai o alw am ddur yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
|