British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 12:48 GMT 13:48 UK
Y frech goch: Bron 350 achos

Brech goch
Mae 341 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru

Daeth cadarnhad fod dau achos newydd o'r frech goch yng Nghymru sy'n golygu cyfanswm o 346.

Mae un ym Mhenybont-ar-Ogwr a'r llall yn Abertawe ac ar hyn o bryd mae achosion yn 17 o'r 22 sir yng Nghymru.

Hyd yma mae'r mwyafrif o achosion yn blant.

O'r cyfanswm mae 264 yn y gorllewin a'r canolbarth, 59 yn y gogledd a 23 yn y de-ddwyrain.

Mae 41 person wedi cael triniaeth ysbyty.

Achosion y frech goch
Caerfyrddin: 85
Abertawe: 70
Conwy: 54
Sir Benfro: 39
Castell-nedd Port Talbot: 36
Pen-y-bont ar Ogwr: 26
Torfaen: 9
Powys a Rhondda Cynon Taf: 5 yr un
Blaenau Gwent: 7

Ceredigion: 3
Wrecsam: 2
Siroedd Fflint, Dinbych, Gwynedd, Caerdydd a Merthyr Tudful: 1 yr un
Gwybodaeth Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, 5pm, Gorffennaf 2, 2009

"Erbyn hyn, mae achosion bron iawn ym mhob un o siroedd Cymru," meddai Dr Marion Lyons, Pennaeth Tîm Gwarchod Iechyd Cyhoedd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus.

"Bob dydd mae nifer yr achosion yn dal i godi ac rydyn ni'n dal i boeni am unrhyw un sydd heb gael dau ddogn o'r brechiad MMR.

"Mae'r brechiad yn saff, yn effeithiol a'r unig amddiffyniad yn erbyn y frech goch.

Difrifol

"Hefyd mae'n amddiffyniad yn erbyn clwy'r pennau sydd ar gynnydd yng Nghymru."

Dywedodd fod y ddau glefyd â sgileffeithiau difrifol.

"Mae modd i blant gael niwed ar yr ymennydd neu farw o'r frech goch ac mae cymhlethdodau clwy'r pennau yn gallu cynnwys llid yr ymennydd a cholli clyw.

"Y rhai sy fwya mewn perygl o ddal y frech goch yw plant ysgol sydd ddim wedi cael dau ddogn o'r MMR neu blant rhwng 1 a 3 oed na chafodd y brechiad cyntaf yn 13 mis oed.

"Rydyn ni'n amcangyfri bod 45,000 o blant ysgol mewn perygl o ddal y frech goch ar hyn o bryd."

Rhif cyswllt Galw Iechyd Cymru yw 0845 46 47.



HEFYD
Brech goch: Mwy o achosion
08 Meh 09 |  Newyddion
Galw am drafodaeth ar frechiad MMR
01 Meh 09 |  Newyddion
Y frech goch: 'Brawychus'
19 Mai 09 |  Newyddion
Y frech goch: Mwy o achosion
28 Mai 09 |  Newyddion
Y frech goch: Penaethiaid yn poeni
26 Mai 09 |  Newyddion
Brech goch: 50 am frechiad sengl
30 Mai 09 |  Newyddion
Rhybudd i frechu plant
27 Mai 09 |  Newyddion
Brech goch: 'Poeni'n fawr'
12 Mai 09 |  Newyddion
'Angen brechu miloedd o blant'
09 Ebr 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific