British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 10:09 GMT 11:09 UK
Dwy jet: Damwain bron â bod

Triawd o Hawks uwchben Y Fali
Daeth un awyren sengl o fewn 30 troedfedd i un arall oedd ymhlith tair

Mae adroddiad wedi dweud mai "lwc yn unig" olygodd nad oedd dwy awyren Hawk yr Awyrlu wedi taro ei gilydd wrth i'r ddwy fod o fewn 30 troedfedd i'w gilydd.

Roedd yr awyrennau, un â pheilot a pheilot dan hyfforddiant ar ei bwrdd a'r llall yn un o dair, ger Maes Awyr Y Fali ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr.

Mae'r Awyrlu yn Y Fali wedi cynnal ymchwiliad ac wedi gweithredu camau.

Roedd y ddamwain fu bron â digwydd tua 16 milltir i'r de-ddwyrain o'r Y Fali mewn tywydd da am 3.30pm ar Rhagfyr 3.

Fe gafodd ei rhestru yn Nosbarth A, y mwyaf difrifol.

Roedd yr awyren hyfforddi yn hedfan o Lanbedr i Faes Awyr Mona ac yn hedfan i lawr o uchder o 7,600 o droedfeddi.

Roedd yr ail awyren yn un o dair awyren Hawk yn hedfan i'r gogledd-orllewin ac yn hedfan i lawr o uchder o 5,000 troedfedd ar eu ffordd i'r Fali.

Ein cyfrifoldeb ni yw tynnu sylw at wendidau yn sut yr ydyn ni'n gweithredu fel y gall pobl eraill elwa ar y wybodaeth
Pennaeth Grŵp Hyfforddi'r Awyrlu yn Y Fali

Yn ôl adroddiad UKAB (UK Airprox Board), sy'n ymchwilio i digwyddiadau fel hyn, roedd peilot Awyren 2 yn y tair wedi gweld yr awyren hyfforddi ger y tair ac fe orchmynnodd Awyren 3 i godi er mwyn osgoi gwrthdrawiad.

Dywedodd ymchwilwyr fod peilot yr awyren unigol wedi disgrifio sut y gwelodd Hawk arall yn hedfan i lawr yn agos uwch ei ben yn gyflym iawn.

Yn anarferol, cytunodd y ddau beilot fod y bwlch rhyngddyn nhw yn 30 troedfedd wrth i beilot yr awyren unigol ddweud fod risg uchel o wrthdrawiad, meddai'r adroddiad.

Fe ddychwelodd yr awyrennau i'r Fali a Mona heb ddigwyddiad ond dywedodd yr adroddiad nad oedd y tair awyren na'r un unigol yn gwybod am bresenoldeb ei gilydd cyn y ddamwain fu bron â digwydd.

A Hawk pilot and student pilot (Photo by by Chris Chambers)
Cytunodd y ddau beilot ar y pellter rhyngddyn nhw

Roedd pennaeth hyfforddi wedi nodi ei fod ar un adeg yn poeni na fyddai'r ddamwain yn cael ei chofnodi.

Ond dywedodd: "Dylai pob ymdrech gael ei wneud i sicrhau fod unigolion, yn enwedig myfyrwyr dan ein gofal, yn fodlon rhoi gwybod am y digwyddiadau.

"Ein cyfrifoldeb ni yw tynnu sylw at wendidau yn sut yr ydym yn gweithredu fel y gall pobl eraill elwa ar y wybodaeth."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Damwain awyren yn Sir Fôn
20 Ebr 07 |  Newyddion
Môn: Awyren yn cwympo i'r ddaear
15 Chwef 02 |  Newyddion
Awyrlu'n ymchwilio i ddamwain jet
29 Medi 01 |  Newyddion
Awyren o'r Fali mewn damwain
23 Gorff 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific