Kirsty McRae yn diodde llosgiadau i'r rhan fwya o'i chorff
|
Bydd mam merch gafodd losgiadau yn rhoi tystiolaeth yn sesiwn gyntaf pwyllgor sy'n ymchwilio i welyau haul. Cafodd Kirsty McRae, 14 oed, losgiadau difrifol ar ôl treulio llai nag 20 munud ar wely haul ym mis Chwefror mewn canolfan lle nad oedd aelod o staff yn goruchwylio. Treuliodd gyfnod yn yr ysbyty ar ôl dioddef llosgiadau ar 70 y cant o'i chorff. Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y cynulliad sy'n dechrau ei ymchwiliad i'r defnydd o welyau haul a'u rheoleiddio ddydd Iau. Yn y sesiwn gyntaf mae aelodau'n derbyn tystiolaeth oddi wrth elusennau canser, y Gymdeithas Gwelyau Haul, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a Jill McRae, mam Kirsty. 'Pryder cynyddol' Dywedodd Darren Millar AC, cadeirydd y pwyllgor: "Mae pryder cynyddol ymysg y cyhoedd bod plant mwy a mwy ifanc yn defnyddio gwelyau haul yn rheolaidd ac mewn rhai achosion mae hyn wedi arwain at rai ohonynt yn llosgi'n ddifrifol. "Os byddwn yn penderfynu bod angen gwell rheoleiddio, efallai bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael pwerau deddfu er mwyn creu cyfreithiau newydd i sicrhau bod gwelyau haul yn ddiogel ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio yng Nghymru." Ym mis Chwefror, dododd Kirsty £1 yn y peiriant yn y ganolfan yn Y Barri ac yna £3 arall am chwarter awr arall.
Dywed Kirsty nad oedd hi'n sylweddoli pa mor berygl yw gwelyau haul
|
Ar ôl gadael y ganolfan aeth y ferch i'r ysbyty mewn poen ac yno fe gafodd hi hylif ac ocsigen. Mae arbenigwyr iechyd wedi galw am gau canolfannau heb aelodau staff yn goruchwylio. Ym mis Chwefror dywedodd mam Kirsty, Jill McRae, 49 oed, sy'n swyddog iechyd a diogelwch: "Mae hi'n rhannol gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd iddi. "Ond mae'n anhygoel bod unrhyw un yn gallu rhoi arian mewn peiriant ac achosi cymaint â hyn o niwed i'w hunan. "Mae'r gwelyau haul a chanolfannau heb staff yn achosi perygl i'w holl ddefnyddwyr."
|