Dydi Llywodraeth y Cynulliad ddim am weld plant yn byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn 2020.
|
Mae "risgiau sylfaenol" yn rhaglen Llywodraeth y Cynulliad sy'n ceisio delio â thlodi, risgiau y mae angen mynd i'r afael â nhw, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ei adroddiad mae'n rhybuddio fod angen i raglen Cymunedau yn Gyntaf fod yn "flaenoriaeth gliriach" i weinidogion a chynghorau cyn llwyddo. Ers iddo ddechrau mae £214m wedi cael eu gwario. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod gwelliannau wedi bod ers i'r cynllun ers iddo gael ei lansio yn 2001. Ond yn y blynyddoedd cynnar roedd gwendidau difrifol yn sut yr oedd yr oedd Llywodraeth y Cynulliad yn cynllunio ac yn rheoli'r rhaglen. Ers hynny, mae nifer o welliannau wedi bod, er enghraifft, yn sut mae'n dosbarthu arian ac yn monitro perfformiad. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym wedi derbyn copi o'r adroddiad. "Byddwn yn ei astudio yn ofalus ac ymateb yn llawn maes o law". Cydlynu Mae partneriaethau lleol wedi eu sefydlu i gydlynu digwyddiadau iechyd a lles, diogelwch cymuned, prosiectau ieuenctid, cyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau glanhau amgylcheddol. Fodd bynnag, ni chymerodd Llywodraeth y Cynulliad tan 2007 gamau i fonitro a oedd y partneriaethau hyn yn cael eu rhedeg yn unol â'r amcanion. Mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwella sut mae'n rheoli partneriaethau ac mae'r archwilydd yn eu hannog i ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Er gwaetha gwella sut mae partneriaethau yn cael eu rheoli, ni all Llywodraeth y Cynulliad ddangos i ba raddau y mae'r rhaglen yn cyflawni ei hamcanion uchelgeisiol, medd yr adroddiad. 'Blaenoriaeth' Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Jeremy Colman: "Mae'r rhaglen wedi arwain at fanteision ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwella sut y mae'n rheoli'r rhaglen. "Fodd bynnag, wyth mlynedd ers lansio'r rhaglen, nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn llwyddo o hyd i fonitro'n llawn sut y mae'r rhaglen yn mynd i'r afael ag amddifadedd ac yn gwella amodau byw y rhai sy'n byw mewn tlodi. "Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad weithio'n llawer agosach â chyrff cyhoeddus eraill, yn enwedig cynghorau, er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y rhaglen."
|