Dyw'r iaith ddim yn iaith swyddogol yn Ewrop
|
Mae modd cyfathrebu â'r Comisiwn Ewropeaidd drwy gyfrwng y Gymraeg o ddydd Iau ymlaen. Bu Plaid Cymru'n ymgyrchu i sicrhau gwell statws i'r iaith ar lefel Ewropeaidd. Mae'r datblygiad yn cael ei nodi'n swyddogol ym Mrwsel ddydd Iau. Ond nid yw'r Gymraeg yn cael ei hychwanegu at restr 23 o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Yn unol ag ymrwymiadau Cymru'n Un, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn trafod â Llywodraeth San Steffan gyfres o gytundebau sy'n hwyluso'r defnydd o'r iaith yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r datblygiad diweddara'n golygu y gall unigolyn sgrifennu at y comisiwn yn Gymraeg a chael ateb yn Gymraeg. 'Cam synhwyrol' Dywedodd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru: "Mae hwn yn gam synhwyrol arall at wneud yr Undeb Ewropeaidd ychydig yn haws i grŵp o'i ddinasyddion ymwneud â hi. "Wrth wneud hyn, mae'r undeb yn dangos amrywiaeth ddiwylliannol Ewrop ..." Yn ôl Glenys Kinnock, Gweinidog Ewrop Llywodraeth San Steffan: "Fel un sy'n siarad Cymraeg fy hun, rydw i'n amlwg wrth fy modd i weld bod yr iaith yn cael mwy o gydnabyddiaeth ar y lefel Ewropeaidd. "Mae hyn dangos ymrwymiad clir yr undeb i hyrwyddo ei dreftadaeth diwylliannol amrywiol." Syr Kim Darroch, Cynrychiolydd Parhaol San Steffan i'r Undeb Ewropeaidd, a Catherine Day, Ysgrifennydd Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n llofnodi'r cytundeb ddydd Iau.
|