British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 07:23 GMT 08:23 UK
Ymgyrch: 'Ddim yn wastraff amser'

Alan Brotheridge ger y safle
Mae'r safle gerllaw canolfan gymunedol y pentref

Mae ymgyrchwyr yn erbyn symud hen safle gwastraff llechi yn Nyffryn Nantlle wedi dweud eu bod wedi ennill y frwydr.

Roedd trigolion Tal-y-sarn ger Pen-y-groes wedi honni bod y safle 3.7 erw, Hen Domen, yn gartref i fywyd gwyllt, gan gynnwys llyffantod.

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei wrthod.

Roedd y trigolion wedi dadlau nad oedd y safle'n addas i godi tai arno.

Dywedodd Cyngor Gwynedd, oedd eisiau defnyddio'r safle llechi i greu tomen arall, y bydden nhw'n "ystyried ffynonellau eraill".

"Rydan ni'n hapus iawn," meddai cadeirydd Achub Gloddfa Glai, Allan Brotheridge.

"Mi aeth 20 ohonon ni i gyfarfod y cyngor ac ni enillon ni wedi dadl danbaid."

Gwrthod

Dywedodd y cyngor fod Pwyllgor Cynllunio Arfon wedi gwrthod cais i symud hen domen wastraff.

Cafodd caniatâd ei wrthod yn achos bwriad i drefnu mynediad i gerbydau oedd i fod i gludo deunydd er mwyn adfer safle tirlenwi Cilgwyn.

Hefyd cafodd caniatâd ei wrthod o ran rhyddhau'r tir i bwrpas datblygu.

"Fe fydd y cyngor yn ystyried ffynonellau eraill o wastraff llechi cyn y bydd y gwaith capio'n dechrau yng Nghilgwyn," meddai'r cyngor.



HEFYD
Dicter pentref am glirio llechi
04 Meh 09 |  Newyddion
Diwedd cyfnod i domen ddadleuol
31 Rhag 08 |  Newyddion
Cyngor o blaid estyn oes tomen
05 Meh 07 |  Newyddion
Cyngor am ailagor tomen
06 Meh 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific