British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 07:44 GMT 08:44 UK
Y Wladfa: Hwb i gynllun iaith

Esquel
Y nod yw rhoi cyfle i bobl siarad Cymraeg yn Y Wladfa

Mae prosiect yr iaith Gymraeg ym Mhatagonia yn parhau am dair blynedd arall ac yn cael mwy o arian.

Bydd y prosiect, sy'n anelu at hybu'r Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia yn cael £162,000 yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae hyn yn £21,000 yn fwy na'r hyn gafodd ei dderbyn yn y tair blynedd flaenorol.

Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth: "Mae cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol cryf rhwng Cymru a Chubut ...

"Ac mae'r prosiect yn helpu i gadw'r cysylltiadau hynny'n gadarn ac mae wedi bod yn llwyddiannus o ran codi proffil y Gymraeg yn y dalaith.

"Rwy'n gobeithio y bydd cydweithio â Menter Patagonia i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r iaith yn Ne Amerig."

'Help mawr'

Isaias Grandis oedd un o'r myfyrwyr o Chubut oedd yn cyfarfod â Mr Jones adeg y cyhoeddiad. Mae'n astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd dros yr haf.

"Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o'n hunaniaeth yn Chubut," meddai.

"Ac mae mwy o bobl yn eisiau dysgu'r iaith nag erioed ac mae'r cynllun hwn yn help mawr i ddatblygu hynny".

Ers 1997 mae'r rhaglen gefnogi'r Gymraeg ym Mhatagonia wedi bodoli.

Mae prosiectau yn golygu y gall athrawon fynd ar secondiad i dargedu cymunedau allweddol, datblygu athrawon brodorol, sefydlu cyrsiau a hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg.

Cyngor Prydain sy'n rheoli'r prosiect ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy gydweithredu â Chymdeithas Cymru-Ariannin a Chanolfan Addysg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ym Mhrifysgol Caerdydd.



HEFYD
Patagonia: Cyfarfod yn fuan
10 Meh 09 |  Newyddion
Baneri newydd i Batagonia
28 Mai 09 |  Newyddion
Iaith: Dau ar daith i'r Wladfa
18 Ebr 08 |  Newyddion
Urdd: Cyfle yn y Wladfa
31 Mai 08 |  Newyddion
Hyrwyddo'r iaith dros y môr
31 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific