Mae swyddogion yn trin y ffliw bellach yn hytrach na cheisio ei arafu
|
Mae nifer achosion ffliw moch yng Nghymru wedi codi i 60. Cafodd dyn 66 oed o Gasnewydd ei anfon i'r ysbyty ar ôl taith i Seland Newydd. Mae'n cael triniaeth wrth-fiotig ac yn gwella ond mae ganddo broblemau iechyd eraill. Cafodd menyw 56 oed o Gaerdydd ei hanfon i'r ysbyty ar ôl teithio o Sbaen. Mae hi'n gwella ar ôl cael triniaeth wrth-fiotig. Ac mae nifer achosion clinigol posib yng Nghymru yn dal i fod yn 28. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi eu bod nhw'n gwybod am 10 achos o'r ffliw yn y sir. Yn yr achosion hyn, meddygon teulu neu Galw Iechyd Cymru sydd wedi gwneud y diagnosis. Disgyblion Ymhlith yr achosion mae pedwar disgybl o Ysgol Cardinal Newman, Rhydyfelin ger Pontypridd, dau yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, un yn Ysgol Gynradd Pen-y-graig, un yn Ysgol Babyddol Ioan Sant yn Aberdâr a disgybl yn Ysgol Parc Lewis yn Nherfforest. Mae menyw 75 oed yn diodde ar ôl dod i gysylltiad ag achos yng Nghaerwysg. Hyd yn hyn mae pedwar wedi cael triniaeth ysbyty oherwydd y ffliw moch yng Nghymru a dau wedi cael eu rhyddhau. Mae 'na 1,377 o achosion wedi bod yn yr Alban, 6,162 yn Lloegr a 45 yng Ngogledd Iwerddon.
 |
BETH I'W WNEUD?
Os yw unrhyw un yn diodde o symptomau'r ffliw fe ddylai aros gartre
Angen edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru neu eu ffonio i gadarnhau symptomau - ac os ydyn nhw'n dal yn ansicr, cysylltu ar y ffôn gyda'r meddyg teulu
Ddylai neb fynd i'r feddygfa na'r uned damweiniau brys
Cariwch hancesi papur gyda chi drwy'r amser
Defnyddiwch hancesi glân i guddio'ch ceg a'ch trwyn pan ydych chi'n peswch ac yn tisian
Taflwch yr hancesi i'r bin ar ôl eu defnyddio unwaith
Golchwch eich dwylo â sebon a dwr poeth neu â hylif diheintio, yn aml
Llinell ffôn Gwybodaeth Ffliw'r Moch: 0800 1 513 513 neu wasanaeth Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47
|
Mae 'na saith o bobl wedi marw oherwydd y ffliw a ledled y byd mae achosion mewn 135 o wledydd. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi dweud bod "cynlluniau cadarn" yn barod. "Y cyngor gwyddonol yw y bydd 'na gynnydd yn y nifer o achosion yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. "Rydym yn ei drin yn hytrach na'i arafu rhag lledu ac yn dibynnu ar symptomau clinigol yn hytrach na phrofion labordy i gadarnhau achosion." Dywedodd Dr Jewell y dylai rhai sy'n diodde o'r ffliw aros gartref a tsiecio'r symptomau gyda gwasanaeth Galw Iechyd Cymru y symptomau. "Ddyle nhw ddim mynd i'r feddygfa na'r adran frys rhag ofn iddyn nhw ledu'r ffliw," meddai. "Mae tystiolaeth hyd yma yn awgrymu mai mân symptomau y mae pobl yn eu diodde a'u bod yn gwella o fewn hyd at saith diwrnod."
|