Prifysgol: Prinder o £2m
|
Mae Prifysgol Llanbedr Pont Steffan wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer diswyddo staff er mwyn diogelu dyfodol y sefydliad. Dywedodd y brifysgol y byddai'r diswyddiadau yn cyfateb i 46 o swyddi llawn amser. Fe fydd y swyddi, meddai, yn yr adrannau academaidd ac adrannau eraill. Mae'r brifysgol wedi dweud nad ydyn nhw'n derbyn digon o arian oddi wrth y Cyngor Cyllido Addysg Uwch. Dywedodd swyddogion eu bod yn wynebu prinder o £2 miliwn ar gyfer 2009-10. Yr unig ateb, medden nhw, yw lleihau costau cyflogi. Mae hon yn ergyd mewn ardal sy'n brin o swyddi cyflogau uchel ond mae swyddogion wedi dweud bod angen "penderfyniadau anodd" er mwyn cadw cymaint o swyddi yn yr hir-dymor. 'Dulliau eraill' Bore Mercher mae cyfarfodydd gyda'r staff a'r undeb wedi bod ac mae ymgynghori am 90 niwrnod wedi dechrau. Mae'r brifysgol yn cyflogi dros 300 o staff. Fe gafodd y brifysgol £1.2 miliwn yn llai oddi wrth y cyngor cyllido. "Mae'r brifysgol wedi ystyried dulliau eraill o gynyddu incwm a lleihau costau," meddai datganiad. "Ac mae'r rhain yn cynnwys hybu myfyrwyr a defnyddio llety myfyrwyr sy'n eiddo i'r brifysgol a lleihau gwario dianghenraid." Dywedodd fod costau staff yn 66% gwariant y brifysgol. Roedd angen delio â'r problemau, meddai, er mwyn sicrhau dyfodol y sefydlaid newydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. "Mae maint y prinder arian yn golygu bod rhaid gwneud newidiadau mawr sydd, yn anffodus, yn golygu lleihau nifer y staff," meddai Dr Medwin Hughes, is-ganghellor y brifysgol. "Os na wnawn ni hyn nawr, mae'n bosib y bydd rhaid colli mwy o swyddi neu golli'r brifysgol yn llwyr. "Rhaid i ni sicrhau bod y brifysgol yn llwyddo'n ariannol." Cafodd Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ei sefydlu yn 1822. Hwn yw'r sefydliad hyna o ran cyflwyno graddau yng Nghymru ac yn un o brifysgolion lleiaf Ewrop. Yn Llambed mae 9,000 o fyfyrwyr.
|