Mae angen cadeiriau olwyn addas i wahanol bobl
|
Mae 'na ofnau am yr amser y mae'n rhaid i bobl aros i gael cadeiriau olwyn yng Nghymru. Yn ôl elusen Cymdeithas MS Cymru, mae rhai pobl yn gorfod aros am fwy na 18 mis cyn cael cadair olwyn addas. Yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher roedd 'na alw am osod targedau a chyfyngu ar yr amser y mae'n rhaid i bobl aros. Mae'r elusen eisiau sicrwydd na fydd neb yn gorfod aros am fwy na blwyddyn. Y Ceidwadwyr oedd wedi cyflwyno'r mesur yn galw am sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn bennaf yn cael "gwasanaeth derbyniol". Mae'n debyg i alwad yr elusen ac ymgyrchoedd fel 'Plant Anabl yn Cyfri'. Mae'r elusen yn cyd-weithio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau bod oedolion yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn y mesur. Adolygiad Y gobaith ydi bod 'na lai o oedi am gadeiriau a bod 'na ddigon o fuddsoddiad yn cael ei wneud. Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Edwina Hart, ei bod hi eisoes wedi comisiynu adolygiad o'r holl ddarpariaeth. Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis. Dywedodd Aled Owen o Fetws-y-coed fod ei wraig Janet wedi cael gwybod y byddai'n rhaid aros am fwy na 18 mis am gadair olwyn. "Dwi ddim yn gallu deall hyn. "Pam ei fod yn cymryd cymaint o amser i'r Gwasanaeth Iechyd ddod â chadair i Janet? "Mae hi wedi bod yn byw gydag MS ers mwy na phedair blynedd ac fe fyddai cadair newydd yn golygu mwy o annibyniaeth iddi. "Dim ond un fraich y mae Janet yn gallu ei defnyddio ac felly mae cadair olwyn wthio yn gwbl ddi-werth." Yn falch Dywedodd Judi Rhys, Cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, ei bod yn falch bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn codi'r mater. "Mae cadair addas yn golygu gwahaniaeth rhwng rhyddid i adael eich cartref a byw eich bywyd neu fod yn gaeth yn eich cartref eich hun."
|