British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2009, 10:39 GMT 11:39 UK
Fferm oes Fictoria ar werth

Fferm Parc Leighton
Roedd y stad yn anrheg briodas yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Mae fferm o oes Fictoria ym Mhowys ar werth.

Roedd y stad lle mae'r fferm yn anrheg briodas yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gwariodd John Naylor £275,000 wrth ddatblygu Parc Leighton yn 1849 a gweddill y stad ger Y Trallwng.

Ond ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cafodd y stad ei rhannu oherwydd trethi marwolaeth.

Yn 1931 cafodd y fferm ei gwerthu i'r awdurdod lleol.

Mae angen gwaith adnewyddu ar hyn o bryd a dywedodd y perchnogion, Cyngor Powys, y gallai'r fferm gael ei gwerthu am £2 miliwn.

Y llynedd dywedodd y cyngor nad oedd modd fforddio talu costau hirdymor adnewyddu'r fferm.

Ewythr Mr Naylor roddodd Parc Leighton iddo'n anrheg briodas.

£275,000

Rhwng 1848 a 1856 fe fuddsoddodd £275,000 yn y fferm.

Ers 150 mlynedd naw tenant wedi bod ar y fferm, yn rhannu 473 o erwau.

Mewn adroddiad flwyddyn yn ôl dywedodd y cyngor eu bod wedi gwario mwy na £150,000 ar gynnal a chadw ers 2003.

Yn ôl arolwg, fe fyddai'n rhaid gwario £2 miliwn i adfer yr adeilad.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi ceisio dod o hyd i defnyddwyr ar gyfer y fferm ac yn 2007 fe aeth y Tywysog i'r fferm.

Ac mae adroddiad y cyngor yn 2008 yn cyfeirio at bwysigrwydd y fferm a'r adeiladau cyfagos.

"Mae'n anarferol bod cymaint o adeiladau unigol mewn un lle," meddai.

"Mae'n ased ond yn broblem i'r cyngor o ran cynnal a chadw."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific