Mae traeth y Rhyl yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
|
Mae nofwyr wedi'u gwahardd rhag nofio yn y mor yn y Rhyl wedi i garffosiaeth ollwng i'r dwr. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gosod baneri coch ac arwyddion i rhybuddio nad yw hi'n ddiogel i fentro i'r dwr. Fe ddywedon nhw eu bod yn simoedig fod y bibell garffosiaeth wedi byrstio mor agos at y gwyliau ysgol, ac mae nhw wedi galw ar sicrhad na fydd hyn yn digwydd eto. Dywedodd Asiantaeth Yr Amgylchedd y byddai'r bibell wedi ei thrwsio o fewn 24 awr, a'u bod yn monitro safon y dwr yno. Mae'r ymateb i'r digwyddiad yn cael ei arwain gan Dŵr Cymru a'r Asiantaeth. "Amddiffyn enw da" Aelod cabinet Sir Dinbych dros adfywio yw David Thomas. "Rydym yn siomedig iawn fod hyn wedi digwydd yn ystod y tymor gwyliau," meddai, "yn enwedig mor agos at wyliau haf yr ysgolion. "Dyma'r eildro yn y chwe mis diwethaf i garffosiaeth ollwng yn yr un lle, ac rydym am gael atebion pam fod hyn wedi digwydd a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau na fydd yn digwydd eto. "Mae'r ardal yma yn denu miloedd o ymwelwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda llawer yn tyrru i'n traethau sydd wedi ennill gwobrau. Ond mae pethau fel hyn yn cael effaith ar ein hamgylchedd, ac rydym yn awyddus i amddiffyn enw da'r ardal fel lle delfrydol i ymwelwyr. "Fe fyddwn wrth gwrs yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Yr Amgylchedd i fonitro safon y dŵr o safbwynt nofio, ac fe fydd y rhybuddion yn eu lle tan i ni gael gwybod fod y dŵr nofio yn cyrraedd safonau derbyniol." Ychwanegodd yr Asiantaeth bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
|