British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2009, 06:37 GMT 07:37 UK
Creu hyd at 50 o swyddi

Sunjuice
Caeodd ffatri Sunjuice yn gynharach eleni

Bydd Fruitapeel - cwmni sy'n cynhyrchu saws a sudd - yn agor ffatri ar hen safle cwmni Sunjuice yn Llantrisant gan greu hyd at 50 o swyddi.

Caeodd Sunjuice yn gynharach eleni ac fe gafodd eu holl asedau eu prynu gan gwmni o'r Iseldiroedd - Troostwijk.

Fe gafodd cwmni Fruitapeel gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad er mwyn prynu peth o'r offer yn ôl mewn ocsiwn.

Mae Fruitapeel, sydd â ffatri hefyd yn Sir Gaerhirfryn, hefyd yn prynu un o gyn unedau Sunjuice ar Barc Busnes Llantrisant, ac maen nhw'n awyddus i gyflogi cyn-weithwyr Sunjuice.

Daeth croeso cynnes i'r newyddion gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i gefnogi cwmnïau sydd gyda diddordeb prynu'r asedau yma ar yr amod eu bod yn aros yng Nghymru," meddai'r aelod sydd hefyd yn weinidog economi.

"Rydym yn falch o glywed y newyddion am Fruitapeel.

"Dyma'r union ganlyniad yr oeddem am ei weld ac yn falch hefyd y bydd y buddsoddiad yn creu swyddi ar gyfer rhai gollodd eu gwaith pan gaeodd Sunjuice."

Cefnogaeth

Sefydlwyd Fruitapeel dair blynedd yn ôl, a nhw bellach yw'r ail gwmni mwyaf yn eu maes ym Mhrydain.

Mae'n cyflenwi saws ar gyfer enwau mawr fel Del Monte, Chicago Town, Tate and Lyle a Cadbury.

"Fe weithion ni gyda thîm cefnogol dros ben (o Lywodraeth y Cynulliad)," meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Terry Haigh.

"Maen nhw wedi deall y prinder amser, ac wedi cwrdd â bob galw ac rydw i'n falch iawn, ac yn edrych ymlaen yn fawr at sefydlu busnes sy'n tyfu yma yng Nghymru.

"Mae gen i bob hyder y bydd ein ffatri newydd yn llwyddiant."

Gobaith Mr Haigh nawr yw ail agor y ffatri o fewn chwe wythnos, ac mae eisoes wedi cysylltu gyda chyn-weithwyr Sunjuice gyda'r bwriad o recriwtio gweithwyr dros y chwe wythnos nesa.



HEFYD
Cwmni bwyd yn diswyddo 127
28 Ion 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific