British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009, 14:59 GMT 15:59 UK
Cyhuddo dyn o lofruddio llysfab

Jamie Yeates
Roedd gan Jamie Yeates uchelgais realistig o fod yn joci

Mae rheithgor wedi clywed bod "bwli" wedi llofruddio ei lysfab mewn ymosodiad "hurt".

Clywodd Llys Y Goron Abertawe fod Jamie Yeates, 15 oed o Grant Street, Llanelli, wedi bod yn cysgu yn ei wely pan ymosododd ei lystad meddw arno.

Mae Carl Bowen, 42 oed, wedi gwadu lladd ei lysfab, ceisio llofruddio'i wraig a'i lysferch - a dau gyhuddiad arall.

Cafodd Jamie ei drywanu 18 o weithiau yn oriau mân Ionawr 8.

Dywedodd yr erlynydd, Elwen Evans QC, fod y diffynnydd yn gwrthod bwydo Jamie, ddim yn siarad ag e am fisoedd ac yn annog plant eraill i ymosod arno.

Roedd yn ddyn cenfigennus, meddiangar, a hunanol oedd yn disgwyl cael ei ffordd ei hun ac yn yfed gormod
Elwen Evans QC

Erlynydd

Roedd Jamie, meddai, a'i chwaer 19 oed, Kimberley, wedi cael eu gwahardd rhag unrhyw gysylltiad â theulu eu tad.

Ond pan glywson nhw fod eu tad-cu yn diodde o ganser fe aeth y ddau yn ôl i gysylltiad ag e ac fe ddechreuodd Jamie fynd i'w weld.

Dywedodd Ms Evans fod y diffynnydd yn "fwli, yn ddyn cenfigennus a hunanol."

Clywodd y llys fod ei wraig Maria, oedd yn ofalydd, wedi ei gwahardd rhag siarad â'i rhieni ei hun.

Roedd y diffynnydd yn wastad yn amau bod ei wraig, oedd wedi cael saith mab gydag e, yn cael perthynas arall, meddai'r erlynydd.

Doedd hi ddim yn cael gadael y tŷ heb ei ganiatâd, roedd yn amseru ei hymweliadau i'r archfarchnad, yn cadw golwg fanwl ar ei ffôn symudol a maint milltiroedd car y teulu.

"Roedd yn ddyn cenfigennus, meddiangar a hunanol oedd yn disgwyl cael ffordd ei hun ac yn yfed gormod," meddai.

'Cïaidd'

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi treulio Ionawr 7 yn yfed jin ac oren. Yn oriau mân y bore wedyn fe aeth i stafell wely Jamie gyda chyllell o'r gegin.

Dywedodd Ms Evans fod "ymosodiad cïaidd" wedi bod ar fachgen 15 oed diamddiffyn a waedodd i farwolaeth.

Ar y pryd clywodd Kimberley a'i mam Jamie yn gweiddi un gair, "Mam", cyn gadael eu stafelloedd gwely nhw.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi trywanu Kimberley ddwywaith yn ei braich - a cheisio trywanu ei wraig cyn iddi lwyddo i ddianc.

Mae'n gwadu llofruddiaeth, dau gyhuddiad o geisio llofruddio ynghyd â dau gyhuddiad arall yn ymwneud a'i lysferch a'i wraig.

Clywodd y rheithgor fod Jamie am fod yn joci a'i fod wedi bod yn gweithio i hyfforddwr ceffylau rasio mewn stablau yng Nghaerfyrddin.

Mae'r achos yn parhau.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Marwolaeth llanc: Achos llys
12 Ion 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific