Y gorchymyn: Un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un
|
Mae'r Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cymreig wedi cyhoeddi adroddiad am gais y cynulliad am bwerau i ddeddfu ar yr iaith. Dylid trosglwyddo pwerau fyddai'n galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg, meddai. Ond dylai natur y pwerau gael eu diffinio yn llawer mwy manwl. Dywedodd y pwyllgor fod rhai tystion wedi mynegi pryder am sut yr oedd y gorchymyn wedi ei ddrafftio. Mae'r pwyllgor o ASau wedi casglu bod angen ailystyried trothwy o £200,000 o arian cyhoeddus yn achos cyrff fydd yn cael eu cynnwys yng ngorchymyn y cais iaith. Dywedodd y gallai'r mathau o gyrff sy'n cael eu crybwyll yn y gorchymyn "arwain at anghysondebau". Casgliad arall yw bod angen mwy o wybodaeth am ddyletswyddau'r Comisiynydd Iaith. Ni ddylid, meddai, osod baich ar gyrff llai fel elusennau a chwmnïoedd bach. Nod Llywodraeth y Cynulliad yw creu mesur i'r iaith Gymraeg fyddai'n "cadarnhau statws cyfartal" i'r ieithoedd Cymraeg a Saesneg, a sicrhau hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau a sefydlu Comisiynydd Iaith. Y gorchymyn oedd un o elfennau allweddol cytundeb Cymru'n Un, cytundeb y llywodraeth glymblaid.
 |
Gorchymyn: Effaith ar gwmniau?
Nwy, dŵr, a thrydan
Carthffosiaeth
Gwasanaethau post a swyddfeydd post
Gwasanaethau telathrebu
Addysg, hyfforddi a chyngor gyrfaoedd
Gwasanaethau rheilffyrdd
Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â chymwysterau addysg neu alwedigaethol
|
Mae'r broses o baratoi'r cais wedi cymryd blwyddyn yn fwy o amser na'r disgwyl. Wrth gyhoeddi'r gorchymyn yn Chwefror, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, fod yr iaith Gymraeg yn "eiddo i bawb" yng Nghymru. "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgeisio i dynnu grym dros yr iaith Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad, fel ein bod ni'n fwy abl i gyrraedd ein nod o Gymru wirioneddol ddwyieithog." Trosglwyddo hawl Mater i Aelodau'r Cynulliad fydd penderfynu sut i ddefnyddio'r pŵer hwnnw. Rhaid i'r Senedd a'r Cynulliad gymeradwyo'r cais cyn iddo ddod i rym. Ac fe fydd rhaid cael sêl bendith brenhinol hefyd. Fe fydd y gorchymyn yn effeithio ar gwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau i'r cyhoedd. Fe fydd hawl gan Lywodraeth y Cynulliad i gynnwys "nifer helaeth o fudiadau" o dan ofynion Deddf Iaith 1993, gan gynnwys gwasanaethau telathrebu a gwasanaethau rheilffyrdd.
|