British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009, 14:17 GMT 15:17 UK
Baw ci: Torri record?

Gordon Lorenz
Cafodd Lorenz ddirwy wedi i'w sbaniel adael ei farc ar dir gwyrdd yn Llandudno.

Mae'r cynhyrchydd recordiau a gyfansoddodd y gân 'There's No-one Quite Like Grandma' wedi cael ei ddirwyo am yr eildro am beidio â glanhau baw ei gi.

Cafodd Gordon Lorenz ddirwy o £175 gan Ynadon Llandudno wedi i'w gi sbaniel adael ei farc ar dir gwyrdd yn ardal West Shore yn Llandudno.

Cafodd Lorenz, sydd wedi recordio gydag artistiaid fel Charlotte Church ac Atomic Kitten, orchymyn i dalu £150 o gostau.

Fe gafodd ddirwy yn 2008 wedi i gi o'r enw Bertie faeddu ar draeth a llwybr seiclo.

Mae Lorenz yn gyfrifol am dros 800 recordiad o berfformwyr megis Shirley Bassey, Cliff Richard a Petula Clark.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific