Y fformiwla sy'n penderfynu lefel gwario cyhoeddus yng Nghymru
|
Mae angen diwygio'r system ar gyfer ariannu Llywodraeth y Cynulliad, medd adroddiad dros dro comisiwn annibynnol. Dywedodd adroddiad Comisiwn Holtham y gallai Cymru golli mwy nag £8bn yn ystod y 10 mlynedd nesa os nad yw'r Trysorlys yn cyflwyno trefn wedi ei seilio ar wir anghenion. Mae'r comisiwn wedi casglu bod Fformiwla Barnett, sy'n pennu newidiadau i'r grant bloc y mae San Steffan yn ei roi i Gymru, yn "fympwyol". Hon yw'r drefn sy'n penderfynu lefel gwario cyhoeddus yng Nghymru. Mae angen fformiwla, meddai'r comisiwn , sy'n ystyried yr angen am wasanaethau cyhoeddus a chost eu darparu. Rhaid i Lywodraeth San Steffan, Llywodraeth y Cynulliad a gweinyddiaethau datganoledig eraill drafod y fformiwla, meddai'r adroddiad. Llywodraeth y Cynulliad sefydlodd Gomisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid i Gymru. Y cadeirydd yw'r economegydd Gerald Holtham, yn wreiddiol o Aberdâr. Roedd y comisiwn yn un o'r addewidion yng nghytundeb Cymru'n Un, sail llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru. Eisoes mae comisiwn yn yr Alban wedi galw am roi mwy o hawliau treth incwm i Senedd Caeredin ac am fwy o reolaeth ar incwm y wlad.
|