Mae'r ŵyl yn denu pobl o bob cwr o'r byd
|
Wrth i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddechrau daeth cyhoeddiad y bydd £1.6 miliwn yn cael ei roi at adnewyddu'r pafiliwn. Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, gyhoeddodd hyn. Dywedodd fod yr arian ar gyfer adnewyddu a chynnal a chadw'r Pafiliwn Brenhinol yn Llangollen yn sicrhau dyfodol yr ŵyl. Llywodraeth y Cynulliad fydd yn cyfrannu £1 miliwn a Chyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu £600,000. "Mae Eisteddfod Llangollen yn un o emau celfyddydol Cymru," meddai Mr Jones. 'O bob cwr' "Ac mae'r digwyddiad blynyddol yn denu ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o'r byd. "Mae'n gwneud cyfraniad hanfodol i ymdrechion Llywodraeth y Cynulliad i hybu a datblygu twristiaeth gelfyddydol. "Yng nghalon y cyfan mae'r pafiliwn a heb hwn efallai na fydd 'na eisteddfodau yn y dyfodol agos." Dywedodd fod yr arian yn golygu y bydd gwaith yn cael ei orffen cyn gŵyl 2010. Mae'r arian yn rhan o £14.3 miliwn fydd yn hybu economi Cymru. Ar ddechrau'r Eisteddfod roedd Gala Agoriadol nos Lun ac mae'r cystadlu'n dechrau ddydd Mawrth.
|