British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 20:11 GMT 21:11 UK
Damwain: Anafu'n ddifrifol

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio am fod person wedi ei anafu'n ddifrifol ar ôl damwain ffordd ar yr A484 brynhawn Llun.

Roedd y ddamwain ger Cynwyl Elfed.

Dywedodd diffoddwyr eu bod wedi gorfod torri'r person yn rhydd o gar.

Aed â'r person i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 4.15pm a chafodd yr heol ei chau am gyfnod.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific