Yr Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt, wedi galw am gyfarfod brys ag arweinydd y cyngor
|
Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i fachgen yn ei arddegau oedd ar gofrestr rhyw dreisio bachgen chwe blynedd yn iau. Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd y bachgen 16 oed o Fro Morgannwg ei gadw'n unol â'r Ddeddf Iechyd Meddwl wedi iddo bledio'n euog i'r drosedd. Mae mewn ysbyty seiciatryddol am gyfnod amhenodol ac wedi ei wahardd rhag gweithio heb oruchwyliaeth â na bod mewn cysylltiad â phlant o dan 16. Roedd yr heddlu a Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid y cyngor wedi bod yn cadw llygaid arno wedi iddo gyflawni trosedd flaenorol. Maen nhw'n adolygu'r achos. Yn y cyfamser, mae'r Aelod Cynulliad lleol, Jane Hutt, wedi galw am gyfarfod brys ag arweinydd y cyngor, y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Arolygydd Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Tair blynedd Roedd y llys wedi clywed bod y bachgen wedi ymosod ar y bachgen arall am dair blynedd. Dywedodd y bachgen iau y byddai'r llall yn ei fygwth â chyllell boced os nad oedd yn "dilyn y drefn". Does dim modd enwi'r troseddwr am resymau cyfreithiol. Clywodd y llys fod y diffynnydd yn dioddef o sgitsoffrenia ac yn euog bedair blynedd yn gynt o drosedd rywiol yn ymwneud â bachgen 12 oed. Gan ei fod ar y gofrestr rhyw roedd sawl asiantaeth yn cadw golwg arno. Ond dywedodd y cyngor fod ei gyfnod goruchwyliaeth wedi dod i ben ym mis Gorffennaf yn 2007. 'Pobl fregus' Mae Ms Hutt wedi dweud: "Yn amlwg, rhaid i ni sicrhau bod yr asiantiaethau i gyd yn esbonio'r hyn ddigwyddodd ... "Rhaid i ni asesu a yw'r drefn yn gweithio er lles pobl fregus, yn enwedig plant a phobl ifanc." Dywedodd Philip Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y cyngor: "Mae'r bwrdd yn disgwyl adroddiadau o'r holl asiantaethau'n fuan, gan gynnwys gwersi y mae angen eu dysgu - ac argymhellion." Mae'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi dweud bod y "digwyddiadau trychinebus" yn ei thristáu.
|