Y cyfiethiad Cymraeg oedd yn anghywir
|
Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn crafu'u pennau ar ôl i neges ar arwydd gael ei chyfieithu'n anghywir. Cafodd y neges "Pedestrians Look Left" ei throsi'n "Cerddwyr Edrychwch I'r Dde" ar yr arwydd dros dro yn Heol yr Eglwys Fair yng Nghaerdydd. Ers i'r gwall gael ei nodi mae Cyngor Sir Caerdydd wedi tynnu'r arwydd i lawr. Dywedodd y cyngor, "Cwmni rheoli traffig nid Cyngor Caerdydd oedd yn gyfrifol am yr arwydd." Roedd yr arwydd yn lle un Wales and West Utilities yn gynharach y flwyddyn - tra bod gwaith cynnal a chadw'n cael ei wneud. Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau safon a chywirdeb wrth lunio arwyddion dwyieithog."
|