British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 13:49 GMT 14:49 UK
Panel: 'Llawer llai o dreuliau'

Adeilad y Senedd
Fe fydd gan y cynulliad yr hawl i wrthod yr argymhellion neu eu diwygio

Mae argymhellion adolygiad am sut y gall Aelodau'r Cynulliad hawlio cyflog a lwfansau am deithio, llety, ariannu swyddfeydd etholaeth a staff cymorth wedi cael eu cyflwyno i Lywydd y Cynulliad.

Ymhlith y 108 o argymhellion mae torri'r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith - a dileu nifer o daliadau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi.

Mae adroddiad Yn Gywir i Gymru yn cael ei gyhoeddi wedi ymchwiliad 10 mis panel annibynnol o dan gadeiryddiaeth Syr Roger Jones.

Cafodd argymhellion eu llunio ar ôl casglu tystiolaeth oddi wrth y cyhoedd, cyn-Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau presennol ac aelodau o gyrff yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Mae'r panel wedi ystyried sut mae cyrff Seneddol eraill, gan gynnwys y rhai yn Queensland a Seland Newydd, yn cynnig taliadau cydnabyddiaeth a chymorth ariannol i'w haelodau.

Hwn yw'r tro cynta yng Nghymru, yr Alban a Lloegr i adolygiad gael ei gyhoeddi am sut y gall cynrychiolwyr etholedig hawlio cymorth ariannol ers i'r helynt am dreuliau Aelodau Seneddol ddechrau yn San Steffan yn gynharach eleni.

Rhai argymhellion
a. Torri'r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith
b. Dileu nifer o daliadau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi
c. Lleihau nifer yr aelodau â chaniatâd i gael ail gartrefi - o 51 i 25
ch. Y cynulliad yn darparu llety ar rent i'r rhai yn c. ym Mae Caerdydd

Dywedodd Syr Roger: "Mae amseriad comisiynu'r adolygiad hwn yn ystod gwanwyn 2008 yn dystiolaeth o ymrwymiad hir sefydlog y cynulliad i atebolrwydd a thryloywder.

"Dwi'n credu'n gryf y bydd mabwysiadu argymhellion yr adroddiad y caniatáu i'r cynulliad ac Aelodau'r Cynulliad ail-sefydlu ffydd ac ymddiriedaeth pobl Cymru yn y broses ddemocrataidd ddatganoledig.

"Bydd ein hargymhellion hefyd yn gadarnhad pendant fod y cynulliad yn gorff deddfu aeddfed a gwir ddatganoledig sy'n arwain y blaen ymysg cyrff Seneddol ac yn cryfhau democratiaeth yng Nghymru."

Un o'r prif argymhellion, meddai, yw torri'r cysylltiad rhwng cyflog Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol San Steffan ar unwaith.

"Ar ben hynny, rydyn ni'n argymell dileu nifer o daliadau sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi, gan gynnwys dileu'r caniatâd i hawlio taliadau llog morgais ar ail gartrefi'r aelodau yng Nghaerdydd.

Lleihau nifer

"Rydyn ni hefyd yn argymell lleihau nifer yr aelodau y caniateir iddyn nhw gael ail gartrefi o 51 i 25 - ac yn argymell bod y cynulliad yn darparu llety ar rent iddyn nhw ym Mae Caerdydd."

Cyn y cyhoeddi dywedodd Syr Roger fod y panel wedi "mabwysiadau nifer o egwyddorion i'n harwain yn ein gwaith".

Un o'r rhain oedd bod rhaid i'r argymhellion fod wedi eu selio ar dystiolaeth," meddai.

"Mae'n rhaid i ni gael pethau'n iawn er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn deg ac yn agored ond hefyd yn sicrhau gwerth eu harian i'r cyhoedd."

Cafodd y panel ei sefydlu ym mis Awst er mwyn "edrych ar bob agwedd o gymorth ariannol sydd ar gael i ACau".

Argymhellion eraill

Bydd yn ofynnol i'r Aelodau gyflwyno derbynebion a thystiolaeth ddogfennol addas am yr holl dreuliau sy'n cael eu hawlio fel rhan o'u dyletswyddau

Dylid pennu cyflogau Aelodau Cynulliad am dymor pedair blynedd y cynulliad

Dylai'r lwfans costau ychwanegol presennol, gan gynnwys y gallu i hawlio llog morgais ar ail gartrefi, gael ei ddiddymu o ddiwedd y cynulliad hwn ym mis Mai 2011

Dylai'r taliad safonol o £30.65 sy'n cael ei hawlio wrth aros dros nos o brif gartref gael ei ddiddymu cyn gynted â phosib

Ar hyn o bryd mae AC yn derbyn cyflog o £53,108 y flwyddyn sef 82% o gyflog AS.

Fe dderbyniodd yr aelodau godiadau cyflog sylweddol o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac mae disgwyl i'r argymhellion ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol.

Mae costau ychwanegol - am ail gartref - hyd at £13,000 yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer morgeisi llog yn unig a dodrefn.

Yn ôl y costau gafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf roedd yr ACau wedi hawlio dros £230,000 ar forgeisi a rhent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a £50,000 am fwyd.

Hawl i wrthod

Fe fydd gan y cynulliad yr hawl i wrthod neu ddiwygio argymhellion y panel o dan gadeiryddiaeth Syr Roger.

Ond fe fydd 'na bwysau gwleidyddol arnyn nhw i'w derbyn yn eu crynswth.

Y cynulliad ydi'r corff cyntaf i gymryd cyfrifoldeb am eu treuliau ers i'r helyntion yn San Steffan ddod i'r amlwg.



HEFYD
Adroddiad ar gostau ACau
06 Gorff 09 |  Newyddion
Pleidiau: £500,000 am swyddfeydd
02 Gorff 09 |  Newyddion
Cyhoeddi treuliau diweddara ACau
29 Meh 09 |  Newyddion
Beth mae eich AS wedi hawlio?
12 Meh 09 |  Newyddion
Traean yn ad-dalu treuliau
19 Meh 09 |  Newyddion
Datgelu treuliau Aelodau Seneddol
18 Meh 09 |  Newyddion
Treuliau: 'Bod yn ddidrugaredd'
24 Mai 09 |  Newyddion
iPod: ACau yn talu'r arian yn ôl
18 Rhag 08 |  Newyddion
Costau'n cynnwys chwaraewyr Ipod
12 Rhag 08 |  Newyddion
Cyhoeddi costau aelodau'r Cynulliad
12 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific