British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 13:39 GMT 14:39 UK
Cymro'n marw yn Afghanistan

David Dennis
Roedd David Dennis yn 29 oed ac yn dod o Lanelli

Cafodd enwau'r milwyr gafodd eu lladd dros y penwythnos yn Afghanistan eu cyhoeddi ddydd Llun.

Roedd yr Is-Gorporal David Dennis o Gatrawd y Marchfilwyr yn 29 oed ac yn dod o Lanelli.

Cafodd ei ladd mewn digwyddiad yn nhalaith Helmand.

Mewn digwyddiad arall yno hefyd, cafodd y Preifat Roberts Laws, 18 oed a oedd yn aelod o Gatrawd Mercia ei ladd.

Roedd y ddau yn rhan o Ymgyrch Panchai Palang (crafangau'r Panther) i wella diogelwch cyn etholiadau arlywyddol yn y wlad ym mis Awst.

Dydd Llun daeth y newydd bod aelod o'r Gwarchodlu Cymreig wedi cael ei ladd.

Does 'na ddim mwy o fanylion amdano fo wedi cael eu cyhoeddi eto.

Pennaeth

Yr wythnos diwethaf cafodd pennaeth milwrol y Gwarchodlu Cymreig, yr Is-gyrnol Rupert Thorneloe, ei ladd.

Fo yw'r aelod mwyaf blaenllaw o luoedd arfog Prydain i gael ei ladd ar faes y gad ers Rhyfel y Falklands yn 1982.

Cafodd ei gorff ei gludo yn ôl i Brydain ddydd Llun.

Cafodd yr Is-Gorporal Dennis ei ladd gan ffrwydrad.

Roedd ei griw wedi dechrau ar waith clirio o'r ymdrech y diwrnod blaenorol.

Roedd yn gyfrifol am sicrhau gwasanaeth cyfathrebu radio i'r pencadlys, i'r milwyr ar droed ac mewn cerbydau.

Fe wnaeth ymuno gyda'r fyddin yn 2003 fel aelod o'r Artillery Brenhinol.

Bu'n gwasanaethu yn Irac yn 2005.

Ymunodd gyda'r Marchfilwyr yn 2006.

Dyma oedd ei ail ymweliad ag Afghanistan.

Mae'n gadael ei fam Adele, ei efaill Gareth a'i ddyweddi Lisa.

'Profiadol'

Cafodd ei ddisgrifio fel milwr addfwyn a phoblogaidd a oedd yn hynod driw i'w ffrindiau.

O fewn y gatrawd, roedd yn cael ei adnabod fel Dug - enw oedd yn hynod addas yn ôl y fyddin.

Yn y datganiad dywedodd y fyddin ei fod yn mwynhau cadw'n heini a chael hwyl gyda'i gyfeillion ond roedd hefyd yn falch iawn o fentora a gofalu am yr aelodau ifanca yn y gatrawd.

"Roedd David Dennis yn un o griw dawnus iawn yn y gatrawd," meddai'r Is-Gyrnol Gus Fair.

"Roedd y tu hwnt o brofiadol i feddwl ei fod mor ifanc gyda theithiau I Irac ac Afghanistan.

"Roedd wrth ei fodd yn y gatrawd.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda'i fam, ei efaill a'i ddyweddi."

Ychwanegodd yr Uwch-gapten Rupert Lyon nad oedd gan Mr Dennis unrhyw broblem bod yr unig Gymro mewn catrawd sy'n recriwtio o'r Gogledd Ddwyrain.

"roedd yn nodwedd o'i gymeriad a oedd yn sefyll allan ac fe gafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu."

Mae 174 o filwyr wedi marw yn Afghanistan ers 2001.



HEFYD
Afghanistan: Milwr yn cael ei ladd
06 Gorff 09 |  Newyddion
Teyrngedau i 'swyddog arbennig'
03 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific