Fe ddaeth her Abi a Ali Newbould i ben ar Yr Wyddfa
Mae mam a merch wedi dringo'r copa ucha ym mhob sir yng Nghymru mewn pedwar diwrnod. Roedd hyn yn amrywio o fynydd 137 medr (449 troedfedd) o uchder ym Mro Morgannwg i gopa'r Wyddfa sy'n 1,085 medr (3,560 troedfedd) o uchder. Ac roedd Ali Newbould, 50 oed, ac Abi, 17 oed, o Lanbedr yng Ngwynedd, wedi cerdded am 35 awr mewn tywydd crasboeth ac wedi teithio cyfanswm o 850 milltir mewn car. Gobaith y ddwy yw casglu £1,800 ar gyfer cartref plant yn Kyrgyzstan. Cychwynnodd y ddwy ddydd Llun diwethaf drwy ddringo Moel Cwmcerwyn ym Mynyddoedd y Preseli. Naw copa Roedd y ddwy wedi cyrraedd naw copa erbyn diwedd y diwrnod cyntaf. O'r gorllewin fe aethon nhw i'r Bannau Brycheiniog wrth i'r copaon fynd yn uwch. Dydd Iau oedd y diwrnod caletaf wrth iddyn nhw gyrraedd copa'r Wyddfa. "Fe wnes i fwynhau'r Wyddfa a'r diwrnod olaf yn arbennig," meddai Abi. "Dim ond dau fynydd oedd ganddon ni ddydd Iau a nhw oedd fy hoff rai." Profiadol Mae'r fam a'r ferch yn gerddwyr profiadol. Dwy flynedd yn ôl fe wnaethon nhw ddringo'r 15 copa yng Nghymru sy'n fwy na 3,000 troedfedd o uchder mewn 24 awr. Roedden nhw am gael her newydd er mwyn nodi eu penblwyddi arbennig. Eleni mae Ali yn 50 oed ac fe fydd Abi yn 18 ddiwedd y mis. "Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gwbl flinedig ond doeddwn i ddim o gwbl," meddai Abi. Dywedodd fod y mynyddoedd yn amrywio a'r golygfeydd yn ddramatig mewn mannau. 'Yn falch iawn' Ei gŵr hi, meddai, oedd yn gyrru'r ddwy o fynydd i fynydd ac roedd wedi dringo sawl mynydd ei hun. "Dwi'n falch iawn gan fy mod i wedi anafu fy mhen-glin bythefnos cyn i ni gychwyn," meddai. "Roedd yn llethol, nid oherwydd y tywydd yn bennaf ond oherwydd y pellter. "... roedd yn wych gan nad oedd glaw ac roedd modd gweld am filltiroedd."
|