Mae 341 o achosion wedi eu cofnodi yng Nghymru
|
Daeth cadarnhad bod 'na ddau achos newydd o'r frech goch wedi eu cadarnhau yng Nghymru. Mae un ym Mhowys ac un yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd mae achosion yn 17 o'r 22 sir yng Nghymru. Erbyn hyn cafwyd 341 o achosion, y mwyafrif ohonyn nhw'n blant. O'r rhain mae 262 yn y gorllewin a'r canolbarth, 58 yn y gogledd a 21 yn y de-ddwyrain. Mae 41 person wedi cael triniaeth ysbyty. Dywedodd Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru fod achosion ardal Llandudno "o dan reolaeth". Clwy'r pennau Mae'r gwasanaeth yn annog rhieni i drefnu pigiad MMR i'w plant. Hefyd mae nifer achosion y clwy'r pennau'n codi.
 |
Achosion y frech goch
Caerfyrddin: 85
Abertawe: 69
Conwy: 53
Sir Benfro: 39
Castell-nedd Port Talbot: 36
Pen-y-bont ar Ogwr: 25
Torfaen: 9
Powys, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent: 5 yr un
Ceredigion: 3
Wrecsam: 2
Siroedd Fflint, Dinbych, Gwynedd, Caerdydd a Merthyr Tudful: 1 yr un
Gwybodaeth Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, 5pm, Gorffennaf 2, 2009
|
Yn 2008 roedd 329 o achosion yng Nghymru ond dywedodd y Gwasanaeth Iechyd fod 543 o achosion wedi eu cadarnhau ers Ionawr 1 eleni. "Erbyn hyn, mae achosion bron iawn ym mhob un o siroedd Cymru," meddai Dr Marion Lyons, Pennaeth Tîm Gwarchod Iechyd Cyhoedd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus. "Bob dydd mae nifer yr achosion yn dal i godi ac rydyn ni'n dal i boeni am unrhyw un sydd heb gael dau ddogn o'r brechiad MMR. "Mae'r brechiad yn saff, yn effeithiol a'r unig amddiffyniad yn erbyn y frech goch. Difrifol "Hefyd mae'n amddiffyniad yn erbyn clwy'r pennau sydd ar gynnydd yng Nghymru." Dywedodd fod y ddau glefyd â sgileffeithiau difrifol. "Mae modd i blant gael niwed ar yr ymennydd neu farw o'r frech goch ac mae cymhlethdodau clwy'r pennau yn gallu cynnwys llid yr ymennydd a cholli clyw. "Y rhai sy fwya mewn perygl o ddal y frech goch yw plant ysgol sydd ddim wedi cael dau ddogn o'r MMR neu blant rhwng 1 a 3 oed na chafodd y brechiad cyntaf yn 13 mis oed. "Rydyn ni'n amcangyfri bod 45,000 o blant ysgol mewn perygl o ddal y frech goch ar hyn o bryd." Rhif cyswllt Galw Iechyd Cymru yw 0845 46 47.
|