British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 10:06 GMT 11:06 UK
Rhybudd i gefnogwyr y Lludw

Clwb Criced Morgannwg
Cartref Clwb Criced Morgannwg fydd canolbwynt y prawf cyntaf

Mae 'na rybudd i gefnogwyr sy'n ymweld â Chaerdydd ar gyfer gem yn rownd gyntaf Cyfres y Lludw fod yn amyneddgar ac i ganiatáu digon o amser i gyrraedd.

Fe fydd y gyfres yn dechrau yng nghartref Clwb Criced Morgannwg ddydd Mercher.

Gyda disgwyl miloedd yn y brifddinas ar gyfer y prawf cyntaf a gwaith ffordd ar yr M4 mae 'na rybuddion am dagfeydd ac oedi.

Does dim modd i ymwelwyr barcio ger y stadiwm yng Ngerddi Sophia yn ystod y dyddiau pan fydd y prawf ymlaen.

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i ddilyn arwyddion sydd yn y ddinas yn hytrach na cheisio defnyddio systemau lloeren.

CYNGOR I DEITHWYR
BYSIAU:Mae naw gwasanaeth bws lleol yn gwasanaethu ac yn teithio ar hyd Heol y Gadeirlan, nepell o'r stadiwm ac mae 'na arosfannau eraill ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
PARCIO:Dim ond bobl sy'n byw ger y stadiwm sy'n cael pario yna. Mae disgwyl y bydd meysydd parcio'r ddinas yn brysur. Mae gwasanaeth parcio a theithio ger siop Ikea yn Ferry Road, Bae Caerdydd. Mae 'na feysydd parcio bysiau penodol ger y stadiwm. I gael hawl parcio yna cysylltwch gyda'r stadiwm ar 02920 409380.
CERDDED/ BEICIO: Mae modd cerdded i'r stadiwm o fewn 20 munud i ganol y dref gan ddefnyddio Llwybr Taf neu Heol y Gadeirlan. Mae 30 o lefydd cadw eich beic ger y stadiwm
TRÊN: 20 munud o waith cerdded o Orsaf Ganolog Caerdydd i'r stadiwm
CYSYLLTIAD GYDA'R BAE: Mae Bws y Bae yn cysylltu canol y ddinas gyda Bae Caerdydd ac mae'r tacsi dwr yn teithio bob awr ar Afon Taf rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd
FFYRDD AR GAU: Fe fydd Clos Sophia ar gau rhwng 6am-10pm am y pum niwrnod

Drwy'r ddinas fe fydd 'na bobl ar gael i gynnig cyngor ac i roi gwybodaeth lle i fynd.

Mae'n debyg mai dyma fydd y tro cyntaf i filoedd o gefnogwyr ymweld â Chaerdydd.

Dyma'r tro cyntaf i un o gemau prawf cyfres y Lludw rhwng Lloegr ac Awstralia gael ei gynnal y tu allan i'r ddwy wlad yna.

Mae lle i 16,000 o ymwelwyr yn y stadiwm wnaeth agor ar ei newydd wedd ym mis Mai eleni.

"Rydym yn disgwyl tua 100,000 o bobl ychwanegol i ganol y ddinas dros y bum niwrnod y bydd y gêm ymlaen," meddai Prif Arolygydd Steve Murray o Heddlu De Cymru.

"Fe fydd hyn yn golygu y bydd y ffyrdd yng nghanol y ddinas yn hynod o brysur, yn enwedig yn ystod yr oriau brig.

"Rydym yn pwysleisio'r cyngor gan yr awdurdod lleol ac yn gofyn i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Rhaid cynllunio'r daith ymlaen llaw a rhoi digon o amser i chi gyrraedd," ychwanegodd.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Clwb Criced Morgannwg, Simon Lee, bod y gwaith ffordd ar yr M4 yn parhau ac yn sicr am ychwanegu at y tagfeydd.

"Rydym yn gofyn i'r cefnogwyr i gyd ychwanegu dwy awr i'w taith er mwyn peidio cael eu dal mewn tagfeydd," meddai.

Mae'r gwaith lledu yn digwydd rhwng cyffordd 29 a 32.

Yn Yr Hen Lyfrgell yn Yr Ais, yng nghanol Caerdydd, mae 'na arddangosfa am ddim sy'n cynnwys bat gafodd ei ddefnyddio gan W G Grace ac esgidiau gan Don Bradman.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific