British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 07:19 GMT 08:19 UK
Afghanistan: Milwr yn cael ei ladd

Milwyr Prydain yn Afghnaistan
Mae 174 o filwyr wedi cael eu lladd ers 2001 yn y wlad

Mae un o filwyr Bataliwn Gyntaf y Gwarchodlu Cymreig wedi cael ei ladd mewn ffrwydrad yn ne Afghanistan.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y ffrwydrad wedi digwydd yn ystod ymgyrch ger Gereshk yng nghanol talaith Helmand ddydd Sul.

Mae teulu'r milwr wedi cael gwybod.

Mae 174 o filwyr wedi marw yn Afghanistan ers 2001.

Daw marwolaeth y milwr ddyddiau'n unig ar ôl i bennaeth milwrol y Gwarchodlu Cymreig gael ei ladd.

Yr Is-gyrnol Rupert Thorneloe yw'r aelod mwyaf blaenllaw o luoedd arfog Prydain i gael ei ladd ar faes y gad ers Rhyfel y Falklands yn 1982.

Roedd o a'r Marchfilwr Joshua Hammond, 18 oed o Plymouth, yn teithio mewn cerbyd milwrol pan aethon nhw dros ffrwydrad.

Cafodd chwech o filwyr eraill eu hanafu yn y digwyddiad.

Dydd Sadwrn cafodd dau o filwyr eraill eu lladd mewn dau ddigwyddiad arall yn y wlad.



HEFYD
Teyrngedau i 'swyddog arbennig'
03 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific