British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2009, 08:51 GMT 09:51 UK
Damwain: Dynes yn yr ysbyty

Mae dynes 33 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl i fan daro'n ei herbyn ar lwybr tŷ , yn ôl Heddlu Gwent.

Yn ôl yr heddlu fe ddigwyddodd hyn mewn tŷ yn Ffordd Navigation, Rhisga ger Casnewydd brynhawn dydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi cael eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans tua 6.20pm.

Cafodd dyn 55 oed ei arestio cyn cael ei ryddhau ar fechniaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.

Mae'r heddlu wedi cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac mae archwiliad fforensig wedi cael ei gynnal.

Aed â'r ddynes i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Dywedodd llefarydd bod ei chyflwr yn ddifrifol ond yn sefydlog.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i gysŷylltu gyda nhw ar 01633838 111 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific